Termau a geirfa Cymraeg
Cyflyrau a symptomau
Pynciau
Triniaethau
Niwrowahaniaeth
Mae’n bwysig nodi nad yw niwrowahaniaethau yn gyflyrau iechyd meddwl, ond mae llawer o orgyffwrdd rhyngddynt yn aml.
Lluniwyd yr isod yn dilyn gwaith ymchwil, ac mewn trafodaethau gydag unigolion niwrowahanol a gweithwyr yn y maes. Os hoffech drafod yr isod, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Niwroteipiau
Noder nad yw hon yn rhestr gyflawn.
Saesneg | Cymraeg |
Autism | Awtistiaeth |
Attention Deficit Hyperactivity Disorder (ADHD) | Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd |
Dyslexia | Dyslecsia |
Dyspraxia | Dyspracsia |
Dyscalculia | Dyscalcwlia |
Tourette Syndrome | Syndrom Tourrette |
Termau eraill
Saesneg | Cymraeg | Esboniad |
Neurodivergence | Niwrowahaniaeth | Term ymbarél ar gyfer niwroteipiau lleiafrifol.
Pan fydd ymennydd rhywun yn prosesu, yn dysgu, a / neu’n ymddwyn yn wahanol i’r hyn a ystyrir yn ‘debygol’. |
Neurodivergent | Niwrowahanol | Unigolion neu grŵp o bobl sydd â niwroteipiau lleiafrifol (e.e. awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, ayb).
E.e., “Rydw i’n niwrowahanol”, “Maen nhw’n niwrowahanol” |
Neurodiverse | Niwroamrywiol | Mae ‘niwroamrywiol’ yn ansoddair i ddisgrifio grŵp sy’n cynnwys pobl niwrodebygol yn ogystal â phobl niwrowahanol.
I fod yn ‘niwroamrywiol’, mae angen i grŵp o bobl gynnwys o leiaf dau niwroteip gwahanol – e.e. dau berson awtistig ac un person niwrodebygol. Yn ogystal, mae ‘niwroamrywiol’ yn enw ar grŵp o bobl, ac ni all person fod yn ‘niwroamrywiol’. |
Neurodiversity | Niwroamrywiaeth | Mae ‘niwroamrywiaeth’ yn cynnwys pawb – pobl niwrowahanol a niwrodebygol. |
Neurotype | Niwroteip | Mae ‘niwroteip’ yn cyfeirio at nodweddion niwrolegol a seicolegol unigryw unigolyn, gan gynnwys amrywiadau yn y meddwl, ymddygiad, a phrosesu synhwyraidd. |
Neurotypical | Niwrodebygol / Niwronodweddiadol | Unigolion y mae eu niwroteip yn cael ei ystyried yn ‘debygol’ – y niwroteip mwyaf cyffredin.
Noder mai ‘niwrodebygol’ yw’r term sy’n cael ei ffafrio gan y gymuned niwrowahanol. |
Saesneg | Cymraeg |
Mask | Masgio |
Overstimulation | Gorgyffroi |
Reasonable adjustments | Addasiadau rhesymol |
Shutdown | Cau lawr |
Spectrum | Sbectrwm |
Traits | Nodweddion |
Understimulation | Tangyffroi |
Sut i siarad am awtistiaeth
Yn hytrach na… | Defnyddiwch… | Pam? |
ASD,
Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth |
Awtistiaeth,
Y sbectrwm awtistiaeth |
Dylid osgoi defnyddio byrfoddau fel ASD.
Er mai ‘Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth’ yw’r ffordd swyddogol o ddisgrifio awtistiaeth, mae nifer o bobl awtistig a’u teuluoedd yn teimlo bod y term ‘anhwylder’ yn rhy negyddol, ac yn cyfeirio at awtistiaeth fel petai’n salwch. |
Person gydag awtistiaeth | Person awtistig,
Person ar y sbectrwm awtistiaeth
|
Mae nifer o bobl awtistig yn gweld awtistiaeth fel rhan o bwy ydyn nhw, yn hytrach na rhywbeth ar wahân.
Mae ymchwil yn dangos nad oes un ffordd sy’n cael ei dderbyn gan bawb. Fodd bynnag, ‘awtistig’ ac ‘ar y sbectrwm awtistiaeth’ oedd y termau a ffafriwyd gan y rhan fwyaf o oedolion a theuluoedd awtistig. Mae ‘person gydag awtistiaeth’ yn dal i gael ei ddefnyddio’n eang, ond mae mwyfwy o bobl yn ei wrthwynebu. |
Dioddef o awtistiaeth | Awtistig,
Ar y sbectrwm awtistiaeth |
Mae llawer o bobl a theuluoedd awtistig yn teimlo bod ‘dioddef’ yn dibrisio pwy ydyn nhw, neu yn dweud bod rhywbeth o’i le arnynt. |
Awtistiaeth ysgafn / difrifol,
Gweithredu lefel uchel / isel (‘high / low functioning’)
|
Awtistig,
Ar y sbectrwm awtistiaeth, Person awtistig sydd ag anghenion uchel / isel, Awtistig gyda / heb anabledd dysgu.
|
Mae defnyddio gweithredu uchel neu isel yn ddryslyd a chamarweiniol, ac nid yw llawer o bobl a theuluoedd awtistig yn ei hoffi.
Mae llawer o bobl awtistig heb anabledd dysgu yn wynebu anawsterau mawr, ac nid yw ‘gweithrediad uchel’ yn adlewyrchu hyn. Mae’n well gan nifer o bobl awtistig gyfeirio at ‘anghenion gwahanol’. |
Syndrom Asperger | Awtistiaeth | Dim ond pan fyddwch chi’n siarad am rywun sydd â’r diagnosis hwn y dylech ei ddefnyddio. Nid yw pobl bellach yn cael diagnosis o syndrom Asperger. Ni ddefnyddir y term bellach oherwydd cysylltiadau Hans Asperger, yr enwyd Asperger ar ei ôl, â’r Natsïaid. |
Symptomau | Nodweddion | Mae ‘symptomau’ yn rhoi’r argraff mai salwch yw awtistiaeth. |
Cyflwr | Amhariad,
Gwahaniaeth |
Gwahaniaeth yn hytrach na chyflwr yw awtistiaeth. |
Triniaeth | Cefnogaeth,
Addasiadau |
Mae geiriau fel ‘trin’ yn golygu y gallai pobl feddwl bod awtistiaeth yn glefyd y gellir ei ddileu neu ei wella. Gyda chymorth a/neu addasiadau rhesymol, mae llawer o bobl awtistig yn byw bywydau annibynnol. |
Ffynonellau
Gweler hefyd ein tudalen ar Ganllawiau i’r Cyfryngau