Therapi Electrogynhyrfol (ECT)
Electroconvulsive therapy
Mae Therapi Electrogynhyrfol (ECT) yn driniaeth sy’n cynnwys anfon cerrynt trydan trwy’ch ymennydd.
Mae hyn yn achosi ymchwydd byr o weithgarwch trydanol yn eich ymennydd (a elwir hefyd yn drawiad). Y nod yw lleddfu symptomau difrifol rhai problemau iechyd meddwl.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod meddygon ond yn defnyddio ECT fel triniaeth mewn sefyllfaoedd penodol.
Mae hyn yn cynnwys trin iselder difrifol:
- Os oes yn well gennych chi gael ECT oherwydd eich profiad o’i gael yn y gorffennol
- Os oes angen triniaeth frys arnoch, er enghraifft, os yw eich bywyd mewn perygl am nad ydych yn bwyta nac yn yfed
- Os nad yw triniaethau eraill wedi helpu, fel meddyginiaeth a therapïau siarad
Darllen rhagor: Mind