Gorflino

Burnout

Os yw straen cyson wedi eich gadael yn teimlo’n ddiymadferth ac wedi blino’n lân, efallai eich bod chi ar drywydd gorflino (burnout).

Pan rydych chi wedi gorflino, mae problemau’n ymddangos yn enfawr, mae popeth yn edrych yn llwm, ac mae’n anodd magu’r egni i boeni am unrhyw beth—heb sôn am wneud rhywbeth i helpu’ch hun. Ond drwy adnabod y rhybuddion cynharaf, gallwch gymryd camau i osgoi gorflino.

Beth yw gorflino?

Mae gorflino’n gyflwr o flinder emosiynol, meddyliol a chorfforol sy’n cael ei achosi gan straen eithafol ac estynedig. Mae’n digwydd pan fyddwch yn teimlo wedi’ch llethu, yn flinedig yn emosiynol, ac yn methu â chyrraedd gofynion cyson.

Efallai byddwch ar drywydd gorflino os…

  • Yw bob dydd yn wael.
  • Yw poeni am eich bywyd gwaith neu cartref yn teimlo fel gwastraff egni.
  • Ydych yn flinedig drwy’r amser.
  • Yw’r rhan helaeth o’ch diwrnod yn cael ei dreulio ar dasgau sy’n hollol ddiflas i chi neu’n eich llethu.
  • Ydych yn teimlo fel petai dim byd rydych yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth neu’n cael ei werthfawrogi.

Arwyddion a symptomau gorflino

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cael dyddiau lle’r ydym yn teimlo’n ddiymadferth, wedi ein llethu, neu fel petai nad ydym yn cael ein gwerthfawrogi. Fodd bynnag, os fyddwch yn teimlo fel hyn y rhan fwyaf o’r amser, efallai eich bod wedi gorflino.

Mae gorflino’n broses raddol. Mae’r arwyddion a’r symptomau yn gynnil i ddechrau, ond wrth i amser fynd yn ei flaen maent yn gwaethygu. Os fyddwch yn rhoi sylw ac yn gweithredu er mwyn lleihau eich straen, gallwch osgoi chwalfa lwyr. Os fyddwch yn eu hanwybyddu, byddwch yn gorflino yn y pen draw.

Corfforol

  • Teimlo’n flinedig ac wedi’ch llethu y rhan fwyaf o’r amser
  • Imiwnedd isel, bod yn sâl yn aml
  • Cur pen neu boenau cyhyrol aml
  • Newid mewn awydd bwyd neu arferion cysgu

Emosiynol

  • Ansicrwydd yn eich hun a theimlo eich bod wedi methu
  • Teimlo’n ddiymadferth, yn gaeth, ac yn rhwystredig
  • Datgysylltiad, teimlo ar ben eich hun yn y byd
  • Diffyg cymhelliant
  • Agwedd sy’n fwyfwy sinigaidd a negyddol
  • Llai o foddhad ac ymdeimlad is o lwyddiant

Ymddygiadol

  • Osgoi cyfrifoldebau
  • Ynysu eich hun rhag eraill
  • Oedi, gwneud pethau’n arafach
  • Defnyddio bwyd, cyffuriau neu alcohol er mwyn ymdopi
  • Bod yn rhwystredig tuag at eraill
  • Osgoi mynd i’r gwaith neu bod yn hwyr ac yn gadael yn gynnar

Achosion

Mae gorflino’n aml yn deillio o’ch swydd, ond mae unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn gorweithio ac wedi’u tanbrisio mewn perygl o orflino.

Achosion gorflino sy’n ymwneud â gwaith

  • Teimlo fel petai nad oes gennych unrhyw reolaeth neu ond ychydig o reolaeth dros eich gwaith
  • Diffyg cydnabyddiaeth neu wobr ar gyfer gwaith da
  • Disgwyliadau swydd aneglur sy’n gofyn llawer
  • Gwneud gwaith sy’n undonog neu heb her
  • Gweithio mewn amgylchedd anhrefnus sy’n peri straen

Achosion gorflino sy’n ymwneud â ffordd o fyw

  • Gweithio’n ormodol, heb ddigon o amser i gymdeithasu neu ymlacio
  • Diffyg perthnasau agos a chefnogol
  • Bod â gormod o gyfrifoldebau, heb ddigon o gymorth gan eraill
  • Dim digon o gwsg

Gall nodweddion personoliaeth gyfrannu at orflino

  • Tueddiadau perffeithydd; nid yw unrhyw beth yn ddigon da
  • Agwedd negyddol tuag at eich hun ac o’r byd
  • Yr angen i fod â rheolaeth; amharodrwydd i ddirprwyo awdurdod at eraill

Ymdopi â gorflino

Pan rydych ar drywydd gorflino, gallwch deimlo fel nad oes cymorth ar gael. Serch hynny, mae gennych chi fwy o reolaeth dros straen nag yr ydych yn credu. Gallwch gymryd camau cadarnhaol er mwyn ymdopi â gorflino a dod â’r cydbwysedd yn ôl i’ch bywyd.

Troi at eraill

Mae siarad wyneb yn wyneb â rhywun yn ffordd gyflym o dawelu eich system nerfol a lleihau straen. Does dim rhaid i’r person allu datrys yr hyn sy’n peri straen i chi; dim ond bod yn wrandäwr da, rhywun a fydd yn gwrando’n astud, yn rhoi eu sylw llawn ac na fydd yn eich barnu. Ni fydd siarad â rhywun yn gwneud chi’n faich i eraill. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o deulu a ffrindiau yn ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn ymddiried ynddynt ddigon i rannu â nhw, ac fe fydd hyn ond yn cryfhau eich perthynas.

Dod o hyd i gydbwysedd yn eich bywyd

Os ydych yn casáu eich swydd, chwiliwch am ystyr a boddhad rhywle arall yn eich bywyd; yn eich teulu, ffrindiau, diddordebau neu waith gwirfoddol. Rhowch sylw i’r rhannau hynny o’ch bywyd sy’n eich gwneud yn hapus.

Gwnewch ffrindiau yn y gwaith

Mae cynnal perthnasau cryf yn y gweithle’n gallu helpu lleihau undonedd ac yn gwrthdroi effeithiau gorflino. Mae cael ffrindiau y gallwch sgwrsio a chael hwyl â nhw yn ystod y dydd yn gallu helpu lleihau straen swydd nad yw’n rhoi boddhad i chi neu sy’n gofyn llawer, gwella eich perfformiad o fewn y swydd, neu eich helpu drwy ddiwrnod anodd.

Trefnwch amser i ffwrdd o’r gwaith

Os yw gorflino’n teimlo’n anochel, ceisiwch gymryd gwyliau o’r gwaith. Ewch ar wyliau, defnyddiwch eich dyddiau salwch, gofynnwch am gyfnod o absenoldeb dros dro – unrhyw beth i dynnu’ch hun o’r sefyllfa. Defnyddiwch yr amser i ffwrdd i fagu nerth newydd a dilyn camau eraill er mwyn gwella rhag gorflino.

Ail-aseswch eich blaenoriaethau

Mae gorflino’n arwydd sicr nad yw rhywbeth pwysig yn eich bywyd yn gweithio. Trefnwch amser i feddwl am eich gobeithion, eich amcanion a’ch breuddwydion. Ydych chi’n anwybyddu rhywbeth sydd wirioneddol yn bwysig i chi? Gall orflino fod yn gyfle i ail-ddarganfod yr hyn sy’n eich gwneud yn hapus ac i arafu a rhoi amser i’ch hun i orffwys, adlewyrchu a gwella.

Gosodwch ffiniau

Peidiwch â gorlwytho eich hun. Dysgwch sut i ddweud “na” i ofynion o’ch amser. Os yw hyn yn anodd i chi, atgoffwch eich hun bod dweud “na” yn eich galluogi i ddweud “ie” i’r pethau rydych chi wir eisiau eu gwneud.

Trefnwch doriad dyddiol o dechnoleg

Trefnwch amser bob dydd i ddatgysylltu’n llwyr. Rhowch y cyfrifiadur i gadw, diffoddwch eich ffôn, a pheidiwch ag edrych ar eich e-byst.

Gwnewch rywbeth creadigol

Mae creadigrwydd yn arf pwerus rhag gorflino. Gwnewch rywbeth newydd, dechreuwch brosiect hwylus, neu ail-gydiwch yn eich hoff ddiddordeb. Dewiswch weithgareddau nad ydynt yn ymwneud â’r gwaith.

Trefnwch amser penodol i ymlacio

Mae technegau ymlacio megis yoga, myfyrio, ac anadlu’n ddwfn yn gweithredu ymateb ymlacio’r corff, cyflwr o lonyddwch sef y gwrthwyneb i’r ymateb straen.

Sicrhewch eich bod yn cysgu’n ddigonol

Mae teimlo’n flinedig yn gallu gwaethygu gorflino drwy eich achosi i feddwl yn afresymol.

Gwnewch ymarfer corff yn flaenoriaeth

Er efallai mai dyma’r peth olaf fyddwch chi am ei wneud pan rydych wedi gorflino, mae ymarfer corff yn ffordd bwerus o leihau straen a gorflinder.

Cefnogwch eich hwyliau a’ch lefelau egni drwy fwyta’n iach

Gall yr hyn rydych yn rhoi yn eich corff gael effaith anferth ar eich hwyliau a’ch lefelau egni drwy gydol y dydd.

‘Sut i adfywio dy hun’ : Meic Cymru