Polisi dosbarthu
Prisiau dosbarthu
AM DDIM wrth wario dros £40. Nid oes angen cod. Dewiswch yr opsiwn ‘cludiant am ddim’ pan fydd gennych gwerth £40 o eitemau yn eich basged.
Fel arall bydd y pris rhwng 99c a £3.99 yn ddibynnol ar bwysau a maint yr archeb. Bydd y pris yn cael ei nodi’n glir cyn i chi dalu.
Amser prosesu a dosbarthu
Ein nod yw anfon pob archeb gyda gwasanaeth ail ddosbarth o fewn 5 diwrnod gwaith, ond gall fod hyd at 10 diwrnod gwaith mewn cyfnodau prysur. Os oes angen archeb ar frys, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni ein gorau i’ch helpu.
Cysylltwch â ni os nad ydych wedi derbyn eich archeb o fewn 14 diwrnod. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw faterion ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau yn gyflym.
Archebwch cyn 18 Rhagfyr i dderbyn yr eitem cyn y Nadolig.
Dychwelyd nwyddau
Os bydd parsel yn cyrraedd wedi ei ddifrodi, os yw’r nwydd yn ddiffygiol, neu os gwnaethom gamgymeriad wrth brosesu eich archeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a byddwch yn derbyn ad-daliad llawn.
Os hoffech newid maint dilledyn, gallwch ddychwelyd yr eitem a’i gyfnewid, ond chi fydd yn gyfrifol am dalu’r gost postio i ddychwelyd yr eitem ac am yr eitem newydd.
Fel arall, nid ydym yn cynnig ad-daliad.