Iselder
Depression
Mae iselder yn hwyliau isel sy’n para am amser hir, ac yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.
Rydyn ni i gyd yn cael cyfnodau pan fydd ein hwyliau’n isel, a phan fyddwn ni’n teimlo’n drist neu’n ddiflas ynghylch bywyd. Fel arfer, mae’r teimladau hyn yn mynd heibio maes o law. Ond os yw’r teimladau’n ymyrryd â’ch bywyd, a ddim yn mynd heibio ar ôl ychydig wythnosau, neu os byddan nhw’n dod yn ôl drosodd a throsodd am ychydig ddyddiau ar y tro, fe allai hyn fod yn arwydd eich bod chi’n profi iselder.
Gall iselder fod yn salwch ‘anweledig’, ac o’r herwydd mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd deall yr effaith y gall ei chael. Gallant feddwl am iselder fel rhywbeth dibwys neu ei ddiystyru’n gyfan gwbl. A gall hyn ei gwneud hi’n anoddach i’r rhai sy’n ei brofi siarad yn agored a cheisio’r help sydd ei angen arnynt. Mae hefyd yn gyffredin i glywed pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n isel os ydynt yn teimlo’n drist neu’n ddiflas. Ond mae iselder yn broblem iechyd meddwl wirioneddol.
Gall ymyrryd â bywyd bob dydd – dros gyfnodau hir o amser neu mewn cyfnodau byr rheolaidd. Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, iselder yw’r cyflwr iechyd meddwl mwyaf cyffredin yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.
(Ffynonellau: Amser i Newid a Mind)
Gellir defnyddio Adnodd Sgrinio Iselder Ymhlith Oedolion y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, fel canllaw bras ar gyfer adnabod rhai o arwyddion iselder.
Meddyliau a Theimladau
- Hwyliau isel a thristwch
- Dicter
- Teimlo’n ddiwerth, yn hunanfeirniadol neu’n euog heb reswm
- Yn wag ac yn ddideimlad
- Diffyg hunan-hyder a hunan-barch isel
- Yn anobeithiol
- Yn meddwl am farwolaeth a/neu hunanladdiad
- Diffyg diddordeb a mwynhad mewn gweithgareddau roeddech chi’n arfer eu mwynhau
- Gorbryder
- Anhawster canolbwyntio neu wneud penderfyniadau
Ymddygiad
- Dagreuol
- Encilio rhag eraill
- Esgeuluso cyfrifoldebau
- Diffyg diddordeb mewn edrychiad personol
- Diffyg cymhelliant
- Hunan-niweidio
- Newid mewn arferion bwyta
- Defnyddio cyffuriau neu alcohol
- Diffyg chwant rhywiol
Corfforol
- Diffyg egni a blinder
- Newid mewn arferion cysgu
- Colli awydd bwyd
- Colli neu fagu pwysau
- Cur pen
- Cylch misol anghyson
Mathau o iselder
Y gwahaniaeth rhwng tristwch ac iselder
Mae tristwch yn emosiwn sy’n gyffredin i bawb ac mae’n iach i ni gydnabod a pharchu ein hwyliau isel pan fo’r adegau hynny yn ein taro.
Deall pryd yr ydym angen cymorth yw’r rhan bwysig. Os mai tristwch yw eich emosiwn sylfaenol ac os ydych yn gorfod ymdrechu i fwynhau gweithgareddau o ddydd i ddydd, efallai eich bod yn dioddef o iselder.
Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cymharol gyffredin. Yn wahanol i dristwch, nid yw’n emosiwn byrhoedlog. Gall wella neu waethygu ar adegau, ond yn aml bydd arnoch angen cymorth gan weithiwr proffesiynol. (darllen rhagor)
10 celwydd y bydd iselder yn ei ddweud wrthym
Bwli yw iselder. Mae’n dweud celwydd wrthym ni o hyd ac o hyd. Mae’n dweud pethau ofnadwy wrthym.
Gallwn anwybyddu’i eiriau am dipyn bach, ond pan fydd iselder yn ailadrodd y celwydd drosodd a throsodd, byddwn ni’n dechrau’i gredu. Ymhen dim o dro, gall deimlo fel pe bai ein pen yn llawn o gelwyddau.
Bydd iselder yn ceisio ein darbwyllo’n aml ein bod ni ddim yn sâl. Mae’n dweud wrthym nad oes iselder arnom ni, mai dim ond diog ydyn ni. Ein bod ni’n gorymateb ac yn gwneud ffws. Ein bod ni’n gwneud hyn i ennill sylw. Ac am nad ydym ni’n sâl, taw ein bai ni yw’r ffordd rydym ni’n teimlo. Am nad ydyn ni’n sâl, dydyn ni ddim yn haeddu cael help na chymorth. (darllen rhagor)
Sut a phryd i ofyn am gymorth
Gall iselder fod yn salwch unig iawn. Gall ofyn am gymorth gan eraill ein helpu i gario ymlaen. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod pryd i ofyn amdano, a sut i wneud hynny.
Os ydym wedi bod yn profi’r mathau hyn o symptomau am fwy na chwpwl o wythnosau, mae’n werth gweld eich meddyg teulu. Hyd yn oed os nad ydynt yn rhoi diagnosis o iselder i ni – mae’n syniad da i gael sgwrs beth bynnag. Gall fod yna gymorth arall ar gael.
Mae gan bobl gwahanol ffyrdd gwahanol o ran cyfathrebu. Mae rhai ohonom yn hoff o siarad; rydym yn teimlo bod siarad yn helpu i ni brosesu pethau. Mae rhai’n teimlo bod siarad yn anodd; efallai byddwn yn cael hi’n anodd cofio pethau neu’n baglu dros ein geiriau. Yn yr achos hwn, gall fod yn haws i ysgrifennu ein meddyliau ar bapur – gall fod o gymorth wrth brosesu pethau neu i’w cofio. (darllen rhagor)
Dolenni Allanol
- Iselder – Canllaw i Rieni : CWMT (pdf)
- Iselder a naws isel : Bwrdd Iechyd Hywel Dda (pdf)
- Iselder : Amser i Newid Cymru
- Iselder : mind.org.uk
- Delio gydag iselder : Sefydliad Iechyd Meddwl (pdf)
- Iselder : WWAMH (pdf)
- Iselder ymhlith Pobl Ifanc : NCMH (pdf)
- Iselder : NCMH (pdf)
- Gwers – Siarad am Iselder : Samaritans (pdf)
Ffynhonnell: Mind a MHFA Wales