Therapïau siarad

Talking Therapies

Mae therapi siarad yn fath o driniaeth sy’n cynnwys siarad gydag arbenigwr proffesiynol am eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiadau.

Nod triniaethau siarad yw:

  • Rhoi gofod ac amser diogel i chi i siarad gyda rhywun na fydd yn eich beirniadu
  • Eich helpu i wneud synnwyr o bethau ac i ddeall eich hun yn well
  • Eich helpu i ddatrys teimladau cymhleth, neu ganfod ffyrdd i fyw gyda nhw
  • Eich helpu i adnabod patrymau di-fudd yn y ffordd ‘rydych chi’n ymddwyn, a chanfod ffyrdd i’w newid (os ydych chi eisiau)

Sut gall triniaethau siarad fy helpu?

Gall triniaethau siarad eich helpu i ymdopi gyda:

  • Phrofiadau bywyd anodd neu drawmatig
  • Problemau perthnasol
  • Emosiynau anodd, megis galar, euogrwydd, tristwch, dryswch, dicter a diffyg hunan-werth
  • Iselder a gorbryder
  • Problemau iechyd meddwl eraill
  • Problemau iechyd corfforol hirdymor

Sut gallaf gael mynediad at driniaethau siarad?

Pa fath o driniaethau siarad sydd ar gael?

Cwnsela

Math o therapi yw cwnsela sy’n eich annog chi i siarad am eich problemau a’ch teimladau yn gyfrinachol. Bydd cwnsler hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddelio ag unrhyw feddyliau a theimladau negyddol sydd gennych chi drwy eich annog i siarad am yr hyn sy’n eich poeni a dod â’ch teimladau i’r wyneb.

Mewn sesiynau cwnsela gall therapydd eich helpu i ganfod ffyrdd i ymdopi â phroblemau emosiynol a’ch helpu i ddeall sut ‘rydych chi’n teimlo.

>> Rhestr o Gwnselwyr sy’n siarad Cymraeg