Trichotillomania
Trichotillomania
Cyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt yw trichotillomania.
Efallai byddant yn tynnu’r gwallt ar eu pen neu mewn llefydd eraill, megis eu haeliau neu blew eu hamrannau.
Bydd pobl sydd â trichotillomania yn profi awydd cryf i dynnu eu gwallt a thensiwn cynyddol tan eu bod yn gwneud hynny. Ar ôl tynnu’r gwallt, byddant yn profi ymdeimlad o ryddhad.
Gall trichotillomania achosi teimladau negyddol, megis euogrwydd. Gall y person hefyd deimlo cywilydd am dynnu eu gwallt, ac efallai byddant yn ceisio ei wadu neu ei guddio. Weithiau gall trichotillomania wneud i’r person deimlo’n hyll a gall hyn arwain at hunan-barch isel.
Beth sy’n achosi trichotillomania?
Nid yw’n glir beth sy’n achosi trichotillomania, ond mae nifer o theorïau’n bodoli. Mae rhai arbenigwyr yn credu bod tynnu gwallt yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf rydych yn tynnu’ch gwallt, po fwyaf y byddwch am barhau i’w wneud. Gall trichotillomania fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl. Mae theorïau seicolegol ac ymddygiadol yn awgrymu y gall tynnu gwallt fod yn ffordd o ryddhau straen neu bryder.
Gan fod trichotillomania’n ymwneud ag ymddygiad cymhellol, mae rhai arbenigwyr yn credu ei fod yn perthyn i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Mewn rhai achosion, gall trichotillomania fod yn ffordd o hunan-niweidio, lle mae’r person yn anafu eu hunain yn fwriadol fel ffordd o gael rhyddhad dros dro rhag anawsterau emosiynol.
Gwneud diagnosis o trichotillomania
Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi’n tynnu eich gwallt, neu os ydych yn sylwi bod eich plentyn yn gwneud hynny. Efallai bydd eich meddyg teulu’n defnyddio rhai o’r meini prawf isod i wneud diagnosis:
- Rydych yn tynnu’ch gwallt dro ar ôl tro;
- Rydych yn teimlo tensiwn cynyddol cyn ichi dynnu’ch gwallt;
- Rydych yn teimlo rhyddhad neu bleser pan rydych wedi tynnu’ch gwallt;
- Nid oes unrhyw gyflwr meddygol sy’n gwneud i chi dynnu’ch gwallt, megis cyflwr ar y croen;
- Mae tynnu’ch gwallt yn achosi anawsterau i chi neu’n effeithio ar eich bywyd dyddiol – er enghraifft, eich perthnasau neu’r gwaith.
Efallai bydd person yn derbyn diagnosis o trichotillomania hyd yn oed oes nad ydynt yn bodloni’r holl meini prawf uchod.
Ffynhonnell: NHS