Mae ymchwil a phrofiadau personol wedi dangos bod mynegi a thrafod materion fel iechyd meddwl yn brofiad llawer haws wrth allu gwneud hynny yn ein mamiaith.
Gwybodaeth a phrofiadau am iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni’n falch i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i rannu llyfrau AM DDIM* drwy gydol mis Mawrth gyda’r cod ‘Darllen yn Well’!
Os nad ydym ni’n gwneud ymdrech i siarad â’n gilydd, a bod yn agored ac onest am ein problemau, does dim ffordd i unrhyw beth wella.
Dydd Llun 29 Mai | 2pm | Stondin Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd
Sgwrs am bwysigrwydd gwasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg i blant a phobl ifanc
Mae’n debygol fod rhwystr ieithyddol yn atal nifer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig siaradwyr iaith gyntaf, rhag manteisio yn llawn ar y gwasanaethau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru.
Cyflwyniad meddwl.org yng nghynhadledd ‘Ni Bia’r Dewis’ yr Urdd.
Yr wythnos hon, daw carreg filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru.
Mae Mind Cymru eisiau deall profiadau pobl ifanc o’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae canllaw ymarferol ar-lein ynghylch byw gyda gofid a gorbryder yn ystod pandemig Covid-19 bellach ar gael yn Gymraeg.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y sector iechyd yng Nghymru.