Gamblo

Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol gan gynnwys gamblo, unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.

Yn ogystal â’r effeithiau amlwg y gallai problem gamblo ei gael ar ein sefyllfa ariannol, gallai hefyd gael effaith ddifrifol ar ein iechyd meddwl. Dyma rai symptomau ac arwyddion bod gamblo yn broblem:

  • Teimlo mai gamblo yw’r unig beth ‘rydych chi’n ei fwynhau;
  • Cael trafferth cysgu;
  • Teimlo’n isel neu orbryderus;
  • Meddwl am hunanladdiad;
  • Defnyddio gamblo fel ffordd i ymdopi â phroblemau neu emosiynau yn eich bywyd.