Anhwylderau Personoliaeth

Personality Disorders

Mae anhwylderau personoliaeth yn fath o broblem iechyd meddwl lle mae eich agweddau, eich credoau a’ch ymddygiad yn achosi problemau hirdymor yn eich bywyd.

Mae gan bob un ohonom ni ran o’n personoliaeth sy’n gallu achosi anawsterau i ni ein hunain neu i bobl eraill. Yr hyn sy’n wahanol i bobl ag anhwylderau personoliaeth ydy dwyster yr anawsterau hyn a’r ffaith y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch.

Efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth os yw’r tri pheth hyn yn gymwys:

  • Mae’r ffordd rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn peri problemau sylweddol i chi neu eraill yn eich bywyd bob dydd.
  • Mae’r ffordd rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn peri problemau sylweddol mewn gwahanol agweddau ar eich bywyd. Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd gwneud neu gadw ffrindiau, rheoli eich teimladau a’ch ymddygiad neu ddod ymlaen gyda phobl yn y gwaith, er enghraifft.
  • Mae’r problemau hyn yn para am amser hir. Efallai fod y patrymau anodd hyn wedi dechrau pan oeddech yn blentyn neu yn eich arddegau, a gallant barhau pan fyddwch yn oedolyn.

Mathau o anhwylderau personoliaeth

Mae sawl math gwahanol o anhwylderau personoliaeth, a threfnir hwy yn dri chategori:

Amheus: paranoid, sgitsoid, sgitsoaffeithiol, gwrthgymdeithasol

Emosiynol a byrbwyll: ffiniol (BPD), histrionig, narsisaidd

Gorbryder: osgoaol, dibynnol, obsesiynol cymhelleol (OCPD)

(Ffynhonnell: mind.org.uk)

Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (Borderline Personality Disorder – BPD), sydd hefyd yn cael ei alw’n Anhwylder Personoliaeth Emosiynol Ansefydlog (Emotionally Unstable Personality Disorder – EUPD) yw’r anhwylder personoliaeth mwyaf cyffredin, ac mae’n effeithio ar sut bydd rhywun yn meddwl, yn teimlo, yn cysylltu ag eraill, ac ar eu canfyddiadau.

Gellir grwpio symptomau BPD i bedwar prif maes:

  1. Ansefydlogrwydd emosiynol
  2. Ansadrwydd mewn patrymau meddwl a chanfod
  3. Ymddygiad byrbwyll
  4. Perthnasau dwys ond ansefydlog gydag eraill

Ansefydlogrwydd emosiynol

Os oes gennych Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, efallai y byddwch yn profi amrywiaeth o emosiynau dwys a negyddol, megis dicter, tristwch, cywilydd, panig, ofn, teimladau hirdymor o deimlo’n wag ac yn unig. Efallai y byddwch hefyd yn profi newid eithafol yn eich hwyliau dros gyfnod byr o amser.

Mae’n gyffredin i bobl sydd â BPD i deimlo’n hunanladdol a diobaith, ac yna deimlo’n weddol bositif rai oriau yn ddiweddarach. Bydd rhai yn teimlo’n well yn y bore a rhai yn well gyda’r nos. Bydd y patrwm yn amrywio, ond y prif arwydd yw bod eich hwyliau yn newid mewn ffyrdd anrhagweladwy.

Ansadrwydd mewn patrymau meddwl a chanfyddiad

Gall gwahanol fathau o feddyliau effeithio ar bobl sydd â BPD, gan gynnwys:

Meddyliau cynhyrflyd (upsetting) fel credu eich bod yn berson ofnadwy neu deimlo nad ydych chi’n bodoli. Efallai eich bod yn ansicr am y meddyliau hyn ac yn chwilio am gadarnhad nad ydynt yn wir.

Cyfnodau byrion o brofiadau rhyfedd – megis clywed lleisiau y tu allan i’ch pen am funudau ar y tro. Mae’n bosib y bydd y lleisiau hyn yn dweud wrthych am niweidio eich hun neu eraill. Efallai y byddwch yn ansicr a yw’r rhain yn wir.

Cyfnodau hir o brofiadau abnormal – lle y byddwch yn profi rhithwelediadau (lleisiau y tu allan i’ch pen) a chredoau trallodus na all neb eu gwrthbrofi i chi (megis credu bod eich teulu yn ceisio eich lladd chi yn gyfrinachol).

Mae’n bosib bod y fathau hyn o gredoau yn seicotig ac yn arwydd eich bod yn gwaethygu. Mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth os ydych chi’n cael trafferth â rhithdybiau (delusions).

Ymddygiad byrbwyll

Os oes gennych BPD, mae dau brif fath o ysgogiadau gallech eu cael yn hynod o anodd i’w rheoli:

Ysfa i hunan-niweidio – Mewn achosion difrifol, yn enwedig os ydych chi hefyd yn teimlo’n isel, gall yr ysgogiad hwn arwain at deimladau hunanladdol ac efallai y byddwch yn ceisio lladd eich hun.

Ysfa gref i ymwneud â gweithgareddau niweidiol ac anghyfrifol – megis goryfed, camddefnyddio cyffuriau, gwario gormod, gamblo, neu gael rhyw anniogel gyda dieithriaid.

Perthnasau dwys ond ansefydlog gydag eraill

Bydd symptomau anhwylder personoliaeth yn amrywio o fod yn gymedrol i fod yn ddifrifol, ac maent fel arfer yn ymddangos yn ystod yr arddegau, gan barhau i oedolaeth.

Os oes gennych BPD, efallai y byddwch yn teimlo bod pobl eraill yn troi eu cefn arnoch pan fydd arnoch chi eu hangen nhw fwyaf, neu eu bod yn dod yn rhy agos ac yn eich mygu.

Mae llawer o bobl â BPD fel petaen nhw’n sownd yn yr un rhigol o weld perthnasau naill ai yn ddu neu yn wyn. Mae perthynas naill ai yn berffaith a’r person hwnnw’n wych neu mae perthynas yn drychinebus a’r person hwnnw’n ofnadwy. Mae pobl â BPD i’w gweld yn amharod neu heb y gallu i dderbyn unrhyw ardal “lwyd” yn eu bywyd personol ac yn eu perthnasau.

I lawer o bobl â BPD mae perthnasau emosiynol (gan gynnwys perthnasau â gofalwyr proffesiynol) yn pendilio rhwng “gad i fi fod” a “plîs paid â ’ngadael i” a hynny’n peri dryswch iddynt ac i’w cymheiriaid. Gall hyn achosi gwahaniadau, gwaetha’r modd.

Triniaethau

Os ydych chi’n profi symptomau BPD, gwnewch apwyntiad gyda’ch Meddyg Teulu. Efallai y cewch eich holi am eich teimladau, eich ymddygiad diweddar a sut mae eich symptomau yn effeithio ar ansawdd eich bywyd. Gwneir hynny er mwyn eithrio cyflyrau meddyliol mwy cyffredin, megis iselder ysbryd, a sicrhau nad oes dim perygl uniongyrchol i’ch iechyd a’ch lles.

Gall triniaeth seicolegol neu feddygol fod o les i lawer o bobl sydd â BPD. Gall triniaeth gynnwys amryw therapïau seicolegol, un i un a grŵp (seicotherapi) a gynhelir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n gweithio ar y cyd â thîm iechyd meddwl cymunedol. Mae triniaeth effeithiol yn debygol o bara am fwy na blwyddyn.

Gyda threigl amser, mae llawer o bobl â BPD yn goresgyn eu symptomau ac yn gwella. Argymhellir rhagor o driniaeth i’r rhai y mae eu symptomau yn ailymddangos.

Dolenni allanol

Ffynhonnell: nhs.co.uk