Gorbryder
Anxiety
Mae gorbryder yn air a ddefnyddiwn i ddisgrifio teimladau o ofn a gofid. Mae’n cynnwys emosiynau a theimladau corfforol y gallem eu profi pan fyddwn yn bryderus neu’n nerfus.
Mae pawb yn teimlo gorbryder ar adegau; mae’n ymateb naturiol pan fyddwn ni’n teimlo dan fygythiad. Er ei fod yn annymunol, mae gorbryder yn ymwneud â’r ymateb ‘ymladd neu ffoi’ – ein hadwaith biolegol arferol os teimlwn dan fygythiad.
Mae anhwylderau neu broblemau gorbryder yn wahanol i orbryder arferol, gan eu bod yn fwy difrifol, yn para’n hirach, ac yn amharu ar waith, gweithgareddau a/neu berthynas yr unigolyn ag eraill. Gall gorbryder effeithio ar ein meddyliau, ein teimladau, ein hymddygiad a’n lles corfforol.
Symptomau corfforol cyffredin Gorbryder
- Pyliau o banig
- Cyhyrau tynn
- Problemau cysgu
- Anadlu’n cyflymu
- Teimlo’n benysgafn
- Teimlo’n aflonydd
- Calon yn curo’n galed
- Curiad calon cyflym
- Cur pen
- Poenau bol
- Poenau cyhyrol
Meddyliau a Theimladau
- Meddwl yn gwibio neu’n mynd yn wag
- Anhawster canolbwyntio a chofio
- Anhawster gwneud penderfyniadau
- Dryswch
- Teimlo’n nerfus neu’n methu ymlacio
- Bob amser yn ofni’r gwaethaf
- Teimlo na allwch stopio poeni
- Hwyliau isel ac iselder
- Dadbersonoli a dadwireddu
- Poeni’n ormodol
- Dicter
Ymddygiad
- Osgoi sefyllfaoedd
- Ymddygiad obsesiynol neu gymhellol
- Diffyg cwsg
- Camddefnyddio sylweddau
Anhwylderau Gorbryder
Gall gorbryder ddatblygu’n broblem iechyd meddwl os yw’n amharu ar eich bywyd yn sylweddol. Er enghraifft, gall fod yn broblem os ydy:
- Eich teimladau o orbyder yn gryf iawn ac yn para am amser hir
- Os ydy eich ofnau neu bryderon yn anghymesur â’r sefyllfa
- Os ydych chi’n osgoi sefyllfaoedd allai wneud i chi deimlo’n orbryderus
- Os ydy eich pryderon yn anodd eu rheoli
- Os ydych chi’n profi symptomau o orbryder yn rheolaidd, a allai gynnwys pyliau o banig
- Os yw’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd ac yn amharu ar eich gallu i wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau.
Os ydy eich symptomau yn ffitio set benodol o feini prawf meddygol efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder gorbryder benodol. Ond, mae hefyd yn bosib cael problemau gyda gorbryder heb gael diagnosis penodol.
Dyma rai anhwylderau gorbryder:
- Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (Generalised anxiety disorder)
- Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol
- Anhwylder Panig
- Ffobiâu
- Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)
- Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)
- Gorbryder Iechyd
- Anhwylder Dysmorphia’r Corff
- Gorbryder Amenedigol neu OCD Amenedigol
- Mudandod dethol
- Agoraffobia
Dolenni allanol
- Gorbryder : Time to Change Wales
- Gorbryder : Bwrdd Iechyd Hywel Dda (pdf)
- Sut i drechu ofn a gorbryder : Y Sefydliad Iechyd Meddwl (pdf)
- Anhwylderau Gorbryder : WWAMH (pdf)
- Gorbryder a phyliau o banig : NCMH (pdf)
- Pryder a Straen : WWAMH (pdf)
- Gwybodaeth i fyfyrwyr sydd â phryder : Prifysgol Bangor (pdf)
- Llyfr Gwaith Hunangymorth ar Orbryder : Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (pdf)
Ffynonellau: Mind, MHFA Wales