Ffobiâu

Phobias

Bydd unigolion sydd â ffobia yn profi gorbryder mewn sefyllfa benodol iawn nad yw’n beryglus. Yn gyffredinol, nid yw’r unigolyn yn profi gorbryder fel arall yn eu bywyd bob dydd.

Bydd unigolyn sy’n byw â ffobia fel arfer yn osgoi’r sefyllfaoedd penodol hyn neu yn eu goddef thra’n anghyfforddus ac yn ofnus iawn.  Mewn sefyllfa o’r fath, bydd unigolyn yn aml yn dioddef symptomau megis dychlamiad (palpitation) neu theimlo’n wan. Caiff rhain yn aml eu cysylltu ag ofnau eilaidd o farw, colli rheolaeth neu ‘fynd yn wallgof’.

Gall unigolyn brofi ffobia am bron unrhyw beth. Rhai cyffredin fyddai agosatrwydd at anifeiliaid penodol, uchder, stormydd, tywyllwch, hedfan, mannau cyfyng, defnyddio toiledau cyhoeddus, bwyta bwydydd penodol, mynd at y deintydd, neu’r golwg o waed neu anaf.

Weithiau, bydd yr unigolyn yn profi pyliau o banig na allen nhw fod wedi’i ragweld. Mae’r rhain fel arfer yn cynnwys teimladau dwys, sydyn o ofn gyda symptomau chorfforol sy’n gallu gadael y person yn teimlo’u bod yn marw.  Gallent brofi pryderon cyson am gael ymosodiad tebyg arall yn dilyn pyliau fel hyn. Os yw’r pryderon yma’n parhau am fis neu fwy, mae’n bosibl eu bod yn profi anhwylder panig.

Wrth gwrs, bydd nifer o bobl yn teimlo rhywfaint yn ansicr neu’n anghyfforddus pan fod rhaid iddynt ymdrin â gwrthrychau neu sefyllfaoedd penodol, ac mae hynny’n arferol.  Mae ffobia, fodd bynnag, yn wahanol iawn; mae’r ofn a greir gan ffobia yn aml yn llethol ac yn anghymesur o ystyried lefel risg y sefyllfa wirioneddol.

Mae unigolion â ffobia fel arfer yn ymwybodol bod eu hofnau’n afresymol, ond ni allent resymu â hwy serch hynny.  Weithiau, gall eraill o’u cwmpas geisio eu sicrhau drwy egluro nad yw’r gwrthrych neu’r sefyllfa dan sylw yn beryglus na’n fygythiol iawn ond ni fydd y pryderon yn lleihau o ganlyniad.

Yn aml hefyd, ymddengys bod y cyhoedd yn fwy parod i ddeall rhai fwy cyffredin fel ofn uchder, mynd at y deintydd neu nadroedd, ond eu bod yn ei chael yn anos deall rhai eraill megis ofn blodau neu fotymau.  Dylid cofio, i unigolyn â ffobia, fod yr ofn hwnnw’n angerddol o real, ac ni ddylid ei ddiystyru.

Ffynonellau: Gofal a WWAMH