Beth yw iechyd meddwl?
Clywn yn aml am ‘iechyd meddwl’ a ‘salwch meddwl’. Ond beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau?
Yn aml, ceir lot o ddryswch o amgylch y term ‘iechyd meddwl’; bydd sawl un yn meddwl yn syth am broblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl – ond rhan yn unig yw’r rhain.
Iechyd Meddwl
Mae gan bawb ‘iechyd meddwl’; mae gan bob un ohonom gorff ac ymennydd, ac felly mae gennym i gyd iechyd corfforol ac iechyd meddyliol. Nid yw ein hiechyd meddwl yn aros yr un fath drwy’r amser. Gall newid wrth i’n hamgylchiadau newid ac wrth i ni symud drwy gyfnodau gwahanol yn ein bywyd.
Gallwn feddwl am iechyd meddwl yn nhermau:
- y ffordd rydyn ni’n teimlo am ein hunain a’r bobl o’n cwmpas;
- ein gallu i wneud a chadw ffrindiau a pherthnasau;
- ein gallu i ddysgu gan eraill;
- ein gallu i ddatblygu’n seicolegol ac yn emosiynol.
Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n newid ar adegau gwahanol o’n bywydau a bydd rhai pobl yn meddwl amdano fel ‘iechyd emosiynol’ neu ‘lles’, ond yr un peth ydyn nhw yn y bôn. Gall effeithio ar y ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, ac mae’n dylanwadu ar y ffordd fyddwn ni’n delio â straen, yn uniaethu ag eraill ac yn gwneud penderfyniadau.
Mae bod yn feddyliol iach hefyd yn ymwneud â’r cryfder i oresgyn yr anawsterau a’r heriau a fydd yn ein hwynebu ni i gyd ar adegau yn ystod ein bywydau – i fod â hyder a hunan-barch ac i allu credu ynom ni ein hunain.
Gallwn feddwl am iechyd meddwl fel continwwm sy’n amrywio o fod ag iechyd meddwl da i fod â salwch meddwl. Bydd ein lleoliad ar hyd y continwwm hwn yn amrywio ar wahanol adegau yn ein bywydau.
Enghreifftiau o iechyd meddwl positif yw emosiynau fel cyffro a hapusrwydd, ond mae hefyd yn eithaf arferol i deimlo’n bryderus neu’n drist (enghreifftiau o iechyd meddwl negyddol) pan nad yw pethau’n mynd fel yr oeddech wedi’i obeithio – gall bawb wynebu pwysau’n eu bywydau ar adegau penodol. Mae’n bwysig cydnabod bod ein teimladau’n newid ar wahanol adegau a’i fod yn rhywbeth rydyn ni gyd yn ei brofi a’i rannu, er y gall fod yn brofiad ansefydlog iawn pan mae’n digwydd.
Salwch Meddwl
Rydym ni gyd yn teimlo’n isel neu’n ofidus neu o dan straen ar adegau, ac mae’r teimladau hyn yn pasio y rhan fwyaf o’r amser.
Fodd bynnag, os ydych chi’n profi pryderon a theimladau anodd sy’n amharu ar eich bywyd bob dydd, a bod y teimladau hyn yn dod yn rai parhaus, sy’n parhau am rai wythnosau neu fwy, mae’n bosibl y gallech fod yn byw â salwch neu anhwylder iechyd meddwl a bod angen cyngor a chymorth arnoch.
Mae salwch meddwl (neu gyflwr iechyd meddwl neu anhwylder iechyd meddwl) yn salwch y gellir cael diagnosis ohono. Mae’n achosi newidiadau sylweddol i’n meddyliau, ein teimladau a’n hymddygiad, a gall amharu ar ein gallu i weithio, i wneud gweithgareddau dyddiol ac i gynnal perthnasoedd. Bydd rhai pobl yn cael un pwl o salwch meddwl yn eu bywyd, a bydd eraill yn cael llawer o byliau gyda chyfnodau o iechyd meddwl da rhyngddynt.
Mae’r math yma o brofiadau hefyd yn naturiol ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu gwella neu ymdopi gyda chymorth priodol. Ceir nifer o wahanol fathau o salwch meddwl a bydd rhai yn fwy cyfarwydd i’r boblogaeth yn gyffredinol nag eraill, megis gorbryder (anxiety), iselder (depression) ac anhwylderau bwyta (eating disorders). Achosir salwch meddwl gan ystod o wahanol ffactorau, a does neb ar fai mwy na phan ddaliwn ni frech yr ieir!
Mae problem iechyd meddwl yn derm ehangach sy’n cynnwys salwch meddwl yn ogystal â symptomau salwch meddwl nad ydynt o reidrwydd yn gwarantu diagnosis o salwch meddwl, er enghraifft hunan-niweidio a theimladau hunanladdol.
Gall fod yn anodd iawn meddwl eich bod chi, aelod o’ch teulu neu ffrind yn profi problemau iechyd meddwl, ond mae’n hynod bwysig i geisio peidio â’i gadw i chi’ch hun; bydd rhannu yn helpu. Deallwn y gall y syniad o drafod eich iechyd meddwl eich dychryn, ond mae’n rhan naturiol ohonom a bydd siarad ag eraill yn aml yn gwneud i ni sylwi nad yw’n profiadau ni’n anarferol ac nad ydym ar ein pen ein hunain.
Beth allwn ni wneud i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl?
Mae gan y Sefydliad Iechyd Meddwl gyngor da am sut gallwn edrych ar ôl ein hiechyd meddwl, sy’n cynnwys gwneud pethau fel:
- Siarad am ein teimladau
- Cadw mewn cysylltiad gyda’n teulu a’n ffrindiau cefnogol
- Gofyn am gymorth
- Cymryd seibiant
- Gwneud rhywbeth rydyn ni’n dda yn ei wneud ac yn ei fwynhau
- Derbyn pwy ydyn ni