Cyfrannu yn Ariannol

Mae meddwl.org yn cael ei redeg gan griw o wirfoddolwyr ac yn elusen gofrestredig (Rhif: 1192527)

Os hoffech chi helpu gyda chostau rhedeg yr elusen, mae croeso mawr i chi gyfrannu unrhyw swm.

Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.


Trosglwyddiad banc

Gallwch gyfrannu trwy ddefnyddio eich gwasanaeth bancio ar-lein neu eich gwasanaeth bancio dros y ffôn. Dyma’r manylion fydd angen arnoch:

Enw’r Cyfrif: meddwl.org
Rhif y Cyfrif: 73504190
Cod Didoli: 20-18-17

Gallwch hefyd gychwyn Archeb Sefydlog (Standing Order) er mwyn cyfrannu swm yn fisol. Yr un manylion uchod fydd angen arnoch, ac mae modd i chi wneud hyn hefyd trwy ddefnyddio eich gwasanaeth bancio ar-lein neu eich gwasanaeth bancio dros y ffôn.

Os nad oes gennych wasanaeth bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn, gallwch argraffu a llenwi’r ffurflen hon gyda manylion eich cyfrif banc, a’i ddychwelyd at eich cangen banc lleol.


PayPal

Os oes gennych gyfrif PayPal, gallwch gyfrannu drwy ‘PayPal Giving Fund’ drwy’r ddolen hon.

Bydd 100% o unrhyw gyfraniad ariannol yn cael ei drosglwyddo gan Paypal i elusen meddwl.org.


JustGiving

Gallwch hefyd gyfrannu trwy wefan ‘Just Giving’ drwy’r ddolen hon neu’r botwm isod.

Ni fydd JustGiving yn codi ffi platfform ar meddwl.org, ond mae modd i chi ychwanegu cyfraniad i JustGiving ar ben eich rhodd os yn dymuno.


Easy Fundraising

Gallwch godi arian i meddwl.org wrth siopa ar-lein drwy Easy Fundraising.


Diolch o galon am eich cefnogaeth!

Mae rhestr o elusennau sy’n ymwneud â iechyd meddwl gallwch gyfrannu iddynt ar gael yma.