Canllawiau i’r Cyfryngau
Mae portreadau ac adroddiadau ynghylch anhwylderau iechyd meddwl yn ffordd hynod o bwerus i addysgu a dylanwadu ar y cyhoedd. Pan gaiff ei wneud yn iawn, gallai’r cyfryngau fod yn offer pwysig i godi ymwybyddiaeth, herio agweddau a chwalu mythau.
Gall rhoi llwyfan i brofiadau iechyd meddwl, gan gynnig mewnwelediad i’r cyhoedd i anawsterau iechyd nad oes ganddynt lawer o wybodaeth amdanynt.
Fodd bynnag, gall newyddiadura ac adroddiadau gwallus hybu ofn a drwgdybiaeth, gan leihau’r ddealltwriaeth ynghylch materion iechyd meddwl.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth i newyddiadurwyr ac i wneuthurwyr rhaglenni ynghylch:
- Pwyntiau cyffredinol
- Termau i’w defnyddio ac i’w hosgoi
- Arferion da wrth gynnal cyfweliadau a gweithio gyda chyfranwyr
- Defnyddio lluniau
- Operâu sebon a dramâu
- Adrodd ar anhwylderau bwyta
- Rhybuddion cynnwys (‘trigger warnings’)
- Adrodd ar hunanladdiad
- Adrodd ar hunanladdiadau gan enwogion
Pwyntiau cyffredinol
Os oes angen i chi adrodd ar stori sy’n ymwneud â rhywun ‘rydych chi’n credu sydd â salwch meddwl, dyma rai pethau i’w hystyried:
- A yw’n berthnasol i’r stori fod gan y person anhwylder iechyd meddwl?
- Peidiwch â dyfalu bod iechyd meddwl rhywun yn ffactor yn y stori oni bai eich bod yn gwybod 100% bod hyn yn wir.
- Peidiwch â rhoi diagnosis ar yr awyr nac annog ‘arbenigwyr’ i wneud hynny.
- Rhowch ffeithiau i roi’r stori mewn cyd-destun. Cofiwch fod pobl sydd â salwch meddwl difrifol yn fwy tebygol o ddioddef – yn hytrach na chyflawni – trosedd dreisgar.
- Ystyriwch holi pobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl wrth ymchwilio – maent yn arbenigwyr ar eu cyflyrau eu hunain.
- Darparwch wybodaeth gywir am anhwylderau iechyd meddwl.
- Anogwch bobl i geisio cael cymorth, er enghraifft drwy ddarparu rhifau ffôn priodol..
- Ystyriwch ddefnyddio negeseuon am wellhad. Peidiwch â chanolbwyntio ar sut mae anhwylderau iechyd meddwl yn datblygu neu’r rhannau gwaethaf. Dangoswch sut gall pobl wella. Gallai manylion am sut wnaeth rhywun wella helpu’r gynulleidfa gyda’u problemau eu hunain.
Iaith
Mae dewis yr iaith gywir i ddisgrifio pobl sy’n byw â salwch meddwl yn bwysig. Gallai defnyddio termau anghywir gryfhau stereoteipiau a stigma. Dyma rai o’r geiriau a gaiff eu camddefnyddio amlaf, ynghyd ag awgrymiadau amgen.
Termau i’w hosgoi | Termau i’w defnyddio | Pam? |
‘Gwallgof’ | ‘person sydd â salwch / cyflwr / problem / anhwylder iechyd meddwl’ | Caiff ‘gwallgof’ yn aml ei gysylltu ag ymddygiad rhyfedd neu beryglus. |
‘Seico’, ‘Sgitso’ | ‘person sydd wedi profi seicosis’,
‘person sydd â sgitsoffrenia’ |
Gochelwch rhag defnyddio disgrifiadau cyffredinol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl. |
Rhywun sydd ‘yn sgitsoffrenig’ | Rhywun ‘sydd â diagnosis o’,
‘yn/wedi profi’, ‘yn derbyn triniaeth ar gyfer…’ |
Mae mwy i bobl na’u salwch, nid yw’n eu diffinio. |
‘y rhai sy’n sâl eu meddwl’, ‘dioddefwr’, rhywun sy’n ‘dioddef o’ | ‘pobl sydd â salwch / cyflwr / problem / anhwylder iechyd meddwl’ | Mae llawer o bobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl yn byw bywydau llawn, ac mae nifer hefyd yn gwella. |
‘carcharorion’ (mewn ysbyty seiciatrig) | ‘cleifion iechyd meddwl’,
‘cleifion’, ‘defnyddwyr gwasanaeth’ ‘cleientiaid’ |
Cael eu trin y mae pobl mewn ysbyty, nid cael eu cloi mewn carchar. |
‘tabledi hapus’ | ‘meddyginiaeth gwrth-iselder’,
‘meddyginiaeth’, ‘cyffuriau sydd wedi eu rhagnodi’ |
Mae hyn yn tanseilio effaith iselder ac yn awgrymu eu bod yn ateb cyflym. |
‘cyflawni hunanladdiad’, ‘ymgais lwyddiannus / aflwyddiannus o ladd ei hun’,
‘cri am gymorth’, ‘epidemig’ o hunanladdiadau. |
‘wedi ei l[l]add ei hun’,
‘marw / marwolaeth drwy hunanladdiad’, ‘person sydd mewn perygl o ladd ei hun’, ‘ymgais i ladd ei hun’. |
Camgymeriadau eraill
- Ni ddylid defnyddio ‘sgitsoffrenig’ neu ‘deubegwn’ i ddisgrifio ‘dau feddwl’ neu ‘bersonoliaeth ranedig’ na’u defnyddio yn drosiadol i ddisgrifio rhywbeth sydd â dau ochr gwahanol.
- Nid yw person sydd yn isel neu’n drist yr un fath â rhywun sy’n profi iselder clinigol.
Cynnal cyfweliadau a gweithio gyda chyfranwyr
Os ydych chi’n ysgrifennu am brofiadau iechyd meddwl, mi ddylech bob amser geisio cynnwys llais rhywun sydd â phrofiad, ac wrth wneud hynny, ystyriwch y pwyntiau canlynol:
- Rhowch flaenoriaeth i les yr unigolyn.
- Ystyriwch ydy’r person yn barod i gael eu cyfweld?
- Meddyliwch ble i gynnal y cyfweliad. Gall gyfarfod mewn man prysur neu gyhoeddus fod yn anodd, ac efallai na fydd yn eu hannog i rannu.
- Rhowch syniad iddynt o’r cwestiynau y byddwch yn eu gofyn o flaen llaw er mwyn rhoi cyfle iddynt i ystyried y ffordd orau iddynt rannu eu profiadau personol.
- Cadarnhewch union ddyddiad ac amser y cyfweliad cyn gynted â phosib, rhowch ddigon o amser i’r cyfranwyr baratoi, a rhybuddiwch nhw os yw’n debygol na fydd y cyfweliad yn digwydd neu yn cael ei ddefnyddio.
- Pan fyddwch yn cofnodi’r cyfweliad, defnyddiwch eiriau’r unigolyn pan fo hynny’n bosib er mwyn cyfleu eu profiadau.
- Rhowch wybod i’r person ynghylch y broses olygu cyn cyhoeddi neu ddarlledu’r stori.
- Dywedwch wrthynt os ydych chi’n bwriadu pwysleisio ongl benodol neu roi mwy o liw ar eu geiriau (mewn pennawd er enghraifft).
- Os yn bosib, rhowch gyfle iddynt weld copi o’r stori cyn ei rhyddhau.
- Os ydych chi’n defnyddio lluniau ohonynt, sicrhewch eu bod yn deall sut y caiff y lluniau eu defnyddio, a sicrhewch eu bod yn barod i gael eu hadnabod yn y stori.
- Sicrhewch eu bod yn ymwybodol bod modd iddynt dynnu allan ar unrhyw gam o’r broses, a sicrhewch nad ydynt yn teimlo pwysau i gyfrannu.
- Sicrhewch eich bod yn glir iawn o’r cychwyn o’r broses a beth fydd yn digwydd. Byddwch yn barod i ateb unrhyw gwestiynau ac i wrando ar unrhyw bryderon.
- Mae’n bwysig iawn fod un person o’r tîm cynhyrchu yn creu ac yn cynnal perthynas gyda’r cyfrannwr. Mae hyn yn gwneud pethau’n llawer mwy hwylus iddynt ac yn creu ymddiriedaeth.
- Ceisiwch ddarparu gofal wedi’r cyfweliad neu’r rhaglen, er enghraifft anfon neges atynt i ofyn sut maen nhw.
- Rhowch gymaint o reolaeth â phosib i’r cyfranwyr ynghylch y broses olygu.
Defnyddio lluniau
Gall y lluniau a ddefnyddir mewn straeon fod yr un mor niweidiol â’r geiriau neu’r pennawd. Yn aml, mae’r lluniau sy’n cyd-fynd â straeon ynghylch iechyd meddwl yn lluniau cyffredinol sy’n dangos pobl ar eu pen eu hunain ac mewn poen meddwl difrifol. Mewn gwirionedd, gall unrhyw un fod ag anhwylder iechyd meddwl ac mae llawer mwy iddynt na’u salwch.
Gallai lluniau sy’n dangos pobl mewn poen meddwl difrifol gynyddu’r stigma, a gallai rhai lluniau hyd yn oed sbarduno ymddygiadau penodol. Gallai straeon sydd â chynnwys wirioneddol dda a gwerth addysgiadol gael eu gwanhau oherwydd defnydd o luniau amhriodol.
Lluniau i beidio â’u defnyddio
- Lluniau o ysbytai meddwl. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sydd â salwch meddwl yn mynd i’r ysbyty oherwydd eu cyflwr, felly gall defnyddio llun o ward ysbyty fod yn gamarweiniol.
- Meddyginiaeth. Nid yw nifer o bobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl yn cymryd meddyginiaeth, felly nid yw llun o feddyginiaeth o hyd yn addas nac yn gywir.
- Lluniau all fod yn sbardun (trigger) i rai pobl. Er enghraifft, gallai dangos lluniau o sut wnaeth rhywun hunan-niweidio arwain at efelychu’r ymddygiad hunan-niweidiol hwnnw gan bobl fregus eraill.
- Llun ‘headclutcher’. Gwelwn luniau o berson yn dal eu pen yn eu dwylo yn aml iawn. Nid yw pobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl yn edrych yn drist drwy’r amser, ac nid yw lluniau o’r fath yn cyfleu sut mae’n teimlo i fyw gydag anhwylder iechyd meddwl.
Yn yr un modd ag y byddech yn defnyddio lluniau o amrywiaeth o bobl neu luniau o dorfeydd i gyd-fynd â stori am y boblogaeth gyffredinol, gallwch wneud yr un peth gyda straeon ynghylch iechyd meddwl.
Mae gan Time to Change ddewis o luniau y gellid eu defnyddio am ddim i gyd-fynd â straeon am iechyd meddwl.
Operâu sebon a dramâu
Gallai portreadu cymeriadau sydd ag anhwylderau iechyd meddwl mewn operâu sebon a dramâu gael effaith gadarnhaol wrth wneud i bobl adnabod salwch neu gael cymorth. Fodd bynnag, gallai dehongli salwch yn anghywir gael effaith negyddol iawn, gan gryfhau stereoteipiau bod pobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl yn ‘wallgof, gwael a pheryglus.’
- Dysgwch am anhwylderau iechyd meddwl – siaradwch â chymaint o phosib o bobl sydd â phrofiad.
- Gofynnwch i arbenigwyr wirio eich ffeithiau neu sgript.
- Rhowch ddigon o amser i’r stori ddatblygu. Mae’n gyffredin bod symptomau anhwylderau iechyd meddwl yn datblygu dros gyfnod o amser, yn hytrach nag yn datblygu ac yn cyrraedd y penllanw mewn cyfnod o un bennod.
- Gofynnwch am gyngor arbenigol oddi wrth elusennau ac arbenigwyr iechyd meddwl i sicrhau bod y symptomau rydych chi’n eu dangos ar y sgrin yn berthnasol ac yn realistig.
- Peidiwch â defnyddio anhwylderau iechyd meddwl i geisio esbonio ymddygiad gwael neu ryfedd.
Adrodd ar anhwylderau bwyta
Os ydych yn adrodd ar stori o rywun sydd ag anhwylder bwyta, dyma ychydig o gyngor i’ch helpu:
- Osgoi rhifau, gan gynnwys calorïau, pwysau, BMI, a mesuriadau corfforol. Gall anhwylderau bwyta fod yn anhwylderau cystadleuol. Gallai pobl sydd ag anhwylderau bwyta gymharu eu rhifau eu hunain i gyrraedd neu ‘guro’ eraill, gan weld eu rhifau nhw fel methiant os nad ydynt mor isel â rhai eraill.
- Peidiwch â thrafod grwpiau bwyd. Gallai sôn am fwyd ‘da’ a ‘gwael’ penodol gael eu defnyddio fel cyngor i’r salwch.
- Osgoi sôn am faint o fwyd a gaiff ei fwyta, oherwydd gall hyn gael ei ddehongli fel canllaw ar sut i gyfyngu ar faint o fwyd maent yn ei fwyta, a’r maint ‘cywir’ o fwyd y dylid ei fwyta.
- Peidiwch â defnyddio lluniau o rannau o’r corff. Gallai lluniau o gyrff, neu rannau o’r corff, sy’n eithriadol o denau gael eu defnyddio fel ysbrydoliaeth neu darged i eraill.
- Canolbwyntiwch ar deimladau, yn hytrach nag ar ymddygiad.
Rhybuddion Cynnwys (‘Trigger Warnings’)
Mae’n arfer da i roi rhybudd am gynnwys a allai fod yn triggering, megis disgrifiadau o hunanladdiad, hunan-niwedio, anhwylderau bwyta a thrais.
Wrth i’r cyfryngau fynd ati i bortreadu hanesion yn ymwneud â’r pynciau hyn, mae sensitifrwydd yn gwbl hanfodol, ac fe ddylid sicrhau bod rhybuddion clir ac amlwg ynghylch y cynnwys. Nid yw hyn yn golygu y dylech osgoi ymdrin â’r pynciau hyn yn gyfan gwbl, ond mi ddylech ymdrin ,a nhw gyda gofal a sensitifrwydd.
I rai unigolion sydd yn fregus neu wedi cael profiadau o’r fath yn y gorffennol, fe all clywed profiadau o’r math yma gael effaith sylweddol arnynt os nad ydynt yn ymwybodol o gynnwys yr hyn sydd o’u blaenau. Dylid gosod rhybudd, felly, er mwyn iddynt allu paratoi eu meddyliau, neu ddewis peidio â’i darllen / gwylio / gwrando os na fyddent yn gallu ymdopi ag o. Mae rhybuddion o’r fath yn ffyrdd syml i helpu rhai unigolion i osgoi ôl-fflachiadau, i leihau trallod ac ysfeydd, ac i’w caniatáu i’w paratoi eu hunain yn feddyliol.
Enghreifftiau o rybuddion cynnwys:
- NODER: Mae’r erthygl / rhaglen / nofel hon yn cyfeirio at hunanladdiad ac fe allai eich atgoffa o deimladau anodd. Os ydych yn profi teimladau hunanladdol, cysylltwch â’r Samariaid ar 0808 164 0123 neu ffoniwch 999.
- Rhybudd Cynnwys: Teimladau hunanladdol, hunan-niweidio, trais.
Yn ogystal â rhybudd am gynnwys sydd i ddilyn, dylid cynnwys anogaeth i beidio â gwrando / gwylio / darllen os ydynt o’r farn y gallai hynny gael effaith negyddol arnynt.
Adrodd ar hunanladdiad
Mae ymchwil yn dangos bod adrodd mewn ffordd amhriodol am hunanladdiad yn gallu arwain at ymddygiad dynwaredol. Er enghraifft, os rhoddir manylion i grwpiau bregus fel pobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl a phobl ifanc, am y dull o ladd a ddefnyddiwyd, gall arwain at fwy o farwolaethau gan ddefnyddio’r un dull.
Yn yr un modd, gallai person bregus, na fyddai wedi ceisio lladd ei hun fel arall, uniaethu’n gryf ag un o nodweddion penodol person sydd wedi lladd ei hun, a gall hyn beri iddo yntau ladd ei hun hefyd.
Gall y cyfryngau chwarae rhan gadarnhaol wrth godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad fel mater cymdeithasol a mater iechyd cyhoeddus. Gallant roi gwybodaeth i’r cyhoedd am hunanladdiad a’r arwyddion i gadw golwg amdanynt a hybu’r ffaith bod modd atal hunanladdiad. Gall y cyfryngau helpu i leihau risg hunanladdiad trwy dynnu sylw at ffynonellau cymorth, fel y Samariaid.
- Meddyliwch am effaith yr adroddiadau ar eich cynulleidfa. Gallai’ch stori gael effaith ar unigolion bregus neu bobl sydd â chysylltiad â’r person a fu farw. Mae rhoi gwybodaeth am sut i gysylltu â ffynonellau cymorth priodol, lleol a chenedlaethol, yn gallu annog pobl sy’n cael problemau emosiynol neu feddyliau hunanladdol i geisio cymorth. Gall arbed bywydau.
- Byddwch yn ofalus wrth sôn am ddulliau a chyd-destun hunanladdiad. Profwyd bod manylion dulliau hunanladdiad yn ysgogi unigolion bregus i ddynwared ymddygiad hunanladdol.
- Peidiwch â rhoi gormod o fanylion. Dylid cymryd gofal wrth roi unrhyw fanylion am ddull hunanladdiad. Er bod dweud bod rhywun wedi crogi ei hun neu gymryd gorddos yn dderbyniol, nid yw’n dderbyniol rhoi manylion y peth a ddefnyddiwyd wrth grogi ei hun neu fath a nifer y tabledi a gymerwyd. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth roi ffeithiau achosion lle mae dull anarferol neu ddull oedd yn anhysbys o’r blaen wedi cael ei ddefnyddio. Gwyddys bod nifer o bobl sy’n defnyddio dulliau anarferol neu newydd o ladd eu hunain wedi cynyddu ar ôl cael sylw helaeth.
- Wrth ysgrifennu penawdau meddyliwch yn ofalus am y cynnwys a’r effaith bosibl. Ystyriwch a yw’r pennawd yn gor-ddramateiddio’r stori, yn rhoi manylion y dull neu’n defnyddio termau sy’n gorliwio.
- Peidiwch â chyhoeddi cynnwys nodyn hunanladdiad.
- Peidiwch byth â dweud bod dull yn gyflym, yn hawdd, yn ddi-boen, neu’n sicr o arwain at farwolaeth. Ceisiwch osgoi darlunio unrhyw beth sy’n gyflym neu’n hawdd ei ddynwared – yn enwedig pan fo’r cynhwysion neu’r offer dan sylw ar gael yn rhwydd
- Cyfeiriwch wylwyr a gwrandawyr at ffynonellau cymorth fel y Samariaid. Mae’n ddoeth darparu gwybodaeth ymarferol ynghylch ble i chwilio am gymorth yn dilyn darllediad sy’n ymdrin â hunanladdiad.
- Peidiwch â gor-symleiddio. Mae gan ryw 90% o’r bobl sy’n lladd eu hunain anhwylder iechyd meddwl, gyda diagnosis neu heb ddiagnosis, ar adeg eu marwolaeth. Mae gor-symleiddio achosion neu ‘sbardunau’ canfyddedig hunanladdiad yn gallu bod yn gamarweiniol ac mae’n annhebygol o adlewyrchu cymhlethdod hunanladdiad. Er enghraifft, gochelwch rhag yr awgrym mai un digwyddiad, fel colli swydd, chwalfa perthynas neu brofedigaeth, oedd yr achos. Mae’n bwysig peidio ag esgeuluso realiti cymhleth hunanladdiad a’i effaith ddifrodus ar y bobl sydd wedi’u gadael ar ôl.
- Anelwch am gywair sensitif a pheidiwch â gorliwio’r stori
- Byddwch yn ofalus i beidio â hyrwyddo’r syniad bod hunanladdiad yn cyflawni pethau. Er enghraifft, oherwydd i rywun ladd ei hun bod bwli wedi cael ei ddatgelu neu ei orfodi i ymddiheuro.
- Wrth ysgrifennu penawdau meddyliwch yn ofalus am y cynnwys a’r effaith bosibl. Ystyriwch a yw’r pennawd yn gor-ddramateiddio’r stori, yn rhoi manylion y dull neu’n defnyddio termau sy’n gorliwio.
- Gwiriwch na ddefnyddiwyd ieithwedd amhriodol, megis dweud bod rhywun wedi ‘cyflawni hunanladdiad’. Defnyddiwch ymadroddion eraill fel ‘marw trwy hunanladdiad’.
- Rhowch ystyriaeth ofalus i leoliad adroddiadau a’r lluniau sy’n cyd-fynd â nhw. Mae rhai achosion o hunanladdiad yn denu sylw mawr gan y cyfryngau. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl peidiwch â rhoi’r stori mewn lle rhy amlwg, er enghraifft ar y dudalen flaen neu fel y prif fwletin, gan y gall hyn gael gormod o ddylanwad ar bobl fregus. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ddewis a lleoli lluniau sy’n gysylltiedig ag adroddiad am hunanladdiad. Er enghraifft, cwestiynwch a oes angen llun mawr o’r person sydd wedi marw, neu lun ohono mewn man amlwg. Ceisiwch beidio â defnyddio lluniau dro ar ôl tro o berson sydd wedi marw, er enghraifft mewn orielau ar-lein. Hefyd peidiwch â defnyddio lluniau dro ar ôl tro o rywun sydd wedi marw o’r blaen i gyd-fynd â storïau amdano ef neu rywun arall. Mae hyn yn achosi trallod mawr i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Peidiwch â defnyddio lluniau a ffilmiau dramatig neu emosiynol, megis rhywun yn sefyll ar ysgafell. Ceisiwch beidio â chynnwys lluniau gydag adroddiad o leoliadau penodol, megis pont neu glogwyn, yn arbennig os yw hwn yn fan lle mae pobl yn aml yn lladd eu hunain.
- Addysgwch bobl a rhowch wybodaeth iddynt. Lle bynnag y bo’n bosibl ceisiwch gyfeirio at y materion ehangach sy’n gysylltiedig â hunanladdiad megis ffactorau risg fel camddefnyddio alcohol, anhwylderau iechyd meddwl ac amddifadedd. Hefyd ystyriwch yr effaith gydol oes y gall hunanladdiad ei chael ar y bobl hynny sydd wedi cael profedigaeth trwy hunanladdiad. Gall trafod y fath faterion hybu gwell dealltwriaeth o’r pwnc.
Os yw’n bosibl, cynhwyswch gyfeiriadau at y ffaith bod modd atal hunanladdiad, ac at ffynonellau cymorth megis y Samariaid
Adrodd ar hunanladdiadau enwogion
Mae marwolaethau enwogion yn denu llawer o sylw’r cyfryngau, sy’n medru cynyddu’r risg o ddynwared ymddygiad hunanladdol yn sylweddol.
Mae llawer o ymchwil wedi dangos cysylltiadau cryf rhwng mathau penodol o ymdriniaeth y wasg a chynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad. Mae’r risg hwn yn cynyddu’n sylweddol os adroddir am ddulliau hunanladdiad, os yw’r stori wedi ei rhoi mewn lle amlwg ac os yw’r ymdriniaeth yn helaeth neu yn cael ei orliwio – yn enwedig yn achosion marwolaethau enwogion.
- Byddwch yn ymwybodol bod gan hunanladdiadau enwogion risg uwch o annog dynwared ymddygiad hunanladdol.
- Peidiwch â rhannu manylion penodol am ddull hunanladdiad.
- Peidiwch â gosod y stori ar y dudalen flaen gyda phennawd mawr, neu ei wneud yn brif fwletin newyddion, oherwydd gall hyn orliwio’r stori.
- Peidiwch â dyfalu ynghylch achosion neu gynnig esboniadau syml – cofiwch fod hunanladdiad yn gymhleth ac yn anaml iawn yn ganlyniad i un ffactor unigol.
- Pan fo hynny’n bosib, canolbwyntiwch yn sensitif ar gyraeddiadau bywyd y person.
- Ceisiwch gyfeirio at y problemau ehangach sy’n gysylltiedig â hunanladdiad, fel ffactorau risg fel cam-drin alcohol a chyffuriau neu anhwylderau iechyd meddwl.
- Anogwch bobl i geisio cymorth drwy gynnwys ffynonellau cymorth.
Dolenni allanol
- ‘Canllawiau i newyddiadurwyr’ : Papyrus
- ‘Arferion gorau i ddarlledwyr wrth adrodd am hunanladdiad’ : Samariaid (pdf)
- ‘Cyfryngau Digidol’ : Samariaid (pdf)
- ‘Arferion gorau ar gyfer portreadau hunanladdiad mewn dramâu’ : Samariaid (pdf)
- ‘Llofruddiaeth-Hunanladdiad’ : Samariaid (pdf)
- ‘Adrodd am hunanladdiadau ar y rheilffordd’ : Samariaid (pdf)
- ‘Gweithio gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth ar ôl hunanladdiad’ : Samariaid (pdf)
- Cysylltu â meddwl.org ar ran y wasg
[Ffynonellau: time-to-change.org.uk, Samariaid 1, Samariaid 2]
Gweler hefyd ein tudalen ar dermau a geirfa Cymraeg
Am gyngor arbenigol i’r cyfryngau ynghylch ymdrin ag iechyd meddwl, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Time to Change, Mind neu’r Samariaid.