Tu ôl i’r wên

Podlediad newydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru i drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.

Pennod 6: ‘’Da ni’n tyfu fyny fel pobl LGBTQ+ efo’r byd yn deud wrthan ni bod ni’n wrong’

Ym mhennod olaf y gyfres hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Wyn, Elinor Lowri a Leo Drayton am eu profiadau o fod yn rhan o’r gymuned LHDTC+. 

Elin Llwyd, Lauren Morais, Meg

Pennod 5: ‘Ti’n lyfli fel wyt ti. Ti ddim yn gorfod newid’

Yr wythnos hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lauren Morais a Meg am fwlio, hunanhyder, hunan-werth, y cyfryngau cymdeithasol, a dysgu sut i garu ein hunain.

Pennod 4: ‘Fi’n ok, fi dal ‘ma, dal i fynd…’

Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Jones a Gruff Jones am iselder, awtistiaeth, cerddoriaeth, a’r pwysau i gydymffurfio. 

Elin Llwyd, Nia Morais, Siôn Jenkins

Pennod 3: ‘Ma’ mwy i fi na jysd fy ngorbryder i’

Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Nia Morais a Siôn Jenkins am eu profiadau o orbryder, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi.

Iestyn Gwyn Jones

Tu ôl i’r Wên : Prynhawn Da S4C

Sgwrs gyda Iestyn, un o gyfranwyr y podlediad ‘Tu ôl i’r wên’, ar raglen Prynhawn Da.

Pennod 2: ‘Sdim ots pa bwysau y’f fi, ma’r struggle dal ‘na’

Lewis Owen a Holly Rhys-Ellis yn rhannu eu profiadau o anhwylder bwyta, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi.

Elin Llwyd, Rhys Bidder, Sara Maredudd

Pennod 1: ‘Sdim ffordd iawn i alaru’

Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Sara Maredudd Jones a Rhys Bidder am eu profiadau o alar ar ôl colli rhiant yn ifanc, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi. 

Iestyn Gwyn Jones

‘Tu ôl i’r Wên’

Cân gan Iestyn Gwyn Jones i gyd-fynd â’n podlediad newydd, ‘Tu ôl i’r wên’.

PODLEDIAD: Tu ôl i’r wên

Podlediad newydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru i drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.

Tu ôl i’r Wên: iechyd meddwl a phobl ifanc

Rhagflas o bodlediad newydd fydd yn lansio yn yr Hydref yn trafod iechyd meddwl a’r hyn sy’n wynebu pobl ifanc.