Dibyniaeth

Addictions

Dibyniaeth yw pan fydd unigolyn yn gaeth yn gorfforol ac/neu yn seicolegol i rywbeth, a bydd yn dioddef symptomau diddyfnu os na fydd yn defnyddio’r sylwedd. Cael gafael ar y sylwedd a’i ddefnyddio yw’r peth pwysicaf yn eu bywyd.

Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol: cyffuriau, alcohol, bwyd, ymarfer corff, pornograffi, gemau, cyfryngau cymdeithasol, tatŵs, hunan-niweidio, gamblo, siopa – unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.

Alcohol a Chyffuriau

Mae pob math o gyffuriau yn cael ryw fath o effaith ar ein hiechyd meddwl. Maent yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweld pethau, ein hwyliau a’n hymddygiad.

Gall yr effeithiau hyn fod yn:

  • Bleserus neu’n amhleserus
  • Yn fyr-dymor neu’n hir-dymor
  • Yn debyg i’r effeithiau fyddwch chi’n eu profi fel rhan o broblem iechyd meddwl
  • Yn diflannu neu yn parhau wedi i effeithiau’r cyffur ddod i ben.

Efallai bod eisoes gennych ddiagnosis o salwch meddwl, ac yn defnyddio cyffuriau i geisio ymdopi.

Sylweddoli bod gennych broblem gydag alcohol neu gyffuriau yw’r cam cyntaf i gael cymorth. Efallai bydd angen cymorth arnoch os ydych chi’n aml yn teimlo’r angen i yfed neu gymryd cyffuriau, yn mynd i drafferthion oherwydd eich arferion, bod pobl eraill yn eich rhybuddio ynghylch eich arferion, a/neu os ydych chi’n credu bod eich arferion yn achosi problemau i chi. Eich meddyg teulu yw’r lle gorau i gael cymorth. Ceisiwch fod mor onest â phosib ynghylch eich arferion a’r problemau mae hynny’n ei achosi i chi.

Cariad a Rhyw

Dyma rai arwyddion o ddibyniaeth ar gariad a rhyw:

  • Esgeuluso cyfrifoldebau ac ymrwymiadau fel gwaith, teulu a iechyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol neu ramantus;
  • Meddwl yn obsesif am ryw neu ramant hyd yn oed pan nad ydych am wneud hynny;
  • Cymryd rhan mewn carwriaethau un-nos ac/neu gael perthnasau rhywiol y tu allan i’ch prif berthynas;
  • Hunan-leddfu nes niweidio’ch hunan yn gorfforol neu orflino;
  • Treulio oriau yn edrych neu’n prynu pornograffi, mewn cylchgronau, ar y we neu ar y teledu;
  • Colli neu’n niweidio eich perthnasau oherwydd eich ymddygiad rhywiol.

Gamblo

Yn ogystal â’r effeithiau amlwg y gallai problem gamblo ei gael ar eich sefyllfa ariannol, gallai hefyd gael effaith ddifrifol ar eich iechyd meddwl. Dyma rai symptomau ac arwyddion bod gamblo yn broblem:

  • Teimlo mai gamblo yw’r unig beth ‘rydych chi’n ei fwynhau;
  • Cael trafferth cysgu;
  • Teimlo’n isel neu orbryderus;
  • Meddwl am hunanladdiad;
  • Defnyddio gamblo fel ffordd i ymdopi â phroblemau neu emosiynau yn eich bywyd.

Ysmygu

Yng Nghymru mae 36% o’r oedolion sydd â chyflwr iechyd meddwl yn ysmygu. Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw smygu’n cynnal iechyd meddwl da, a bod rhoi’r gorau i smygu’n gysylltiedig â gwelliannau mewn cyflyrau fel iselder, straen a gorbryder. Mae llawer o smygwyr yn defnyddio sigaréts i leddfu straen, ac nid ydynt yn gwybod am y niwed y gallai eu harfer fod yn ei wneud i’w hiechyd meddwl a’u lles. Mae’r gamgred gyffredin bod smygu’n cynorthwyo ag ymlacio yn aml yn atal smygwyr rhag llwyddo i roi’r gorau iddi. (darllen rhagor ar ash.wales)

Gweithio

Efallai bod nifer o bobl yn gweithio oriau hir ac yn rhoi llawer o ymdrech i’w gwaith, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eu bod yn gaeth i weithio. Mae gan y bobl hynny lefel o gydbwysedd yn eu bywydau. Mae ganddynt amser i ymlacio ac maent yn mwynhau eu bywydau. Ar y llaw arall, gallai person sy’n gaeth i weithio gael eu dinistrio gan eu gwaith. Maent o hyd yn meddwl am weithio, hyd yn oed pan maen nhw ar wyliau.

Mae’n bosib nad yw pobl sy’n gaeth i weithio yn edrych ar ôl eu hunain – sy’n effeithio ar eu diet a’u ffitrwydd. Gallai hefyd effeithio ar eu perthnasau, oherwydd efallai eu bod yn osgoi ffrindiau a theulu gan eu bod yn gweithio cymaint.

Mae nifer o resymau sut y gallai person fynd yn gaeth i weithio. Efallai eu bod yn cael mwy o foddhad o weithio na pherson arferol. Ond eto, nid yw’r boddhad hwn byth yn ddigon. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sy’n gaeth i weithio yn dioddef o ddiffyg hunanhyder, ac mae’n bosib eu bod yn berffeithwyr.

Ymarfer Corff

Mae dibyniaeth ar ymarfer corff yn digwydd pan fydd unigolyn yn rhoi y rhan fwyaf o’u hegni a’u hamser ar ymarfer corff. Mae meddwl am golli sesiwn o ymarfer corff, neu dreulio amser yn gwneud rhywbeth arall, yn gwneud iddynt deimlo’n rhwystredig ac yn siomedig. Mae dibyniaeth ar ymarfer corff yn dod yn brif ffocws bywyd beunyddiol, gan ddod o flaen teulu, ffrindiau a gwaith. Mae’n aml yn cael ei gysylltu ag anhwylderau bwyta os ydy pwysau a chalorïau yn dod yn broblem.

Ymdopi â dibyniaeth

Gall dibyniaeth fod yn hynod o anodd ymdopi ag ef, yn enwedig pan fydd y pethau rydyn ni’n gaeth iddynt yn aml ar gael yn rhwydd. Os na fyddai ein dibyniaeth yn ein helpu ni i ryw raddau, ni fyddem yn parhau i’w ddefnyddio. Rhywbeth sy’n gallu bod yn allweddol iawn wrth ymdopi â dibyniaeth yw gwybod sut mae’n ein helpu ni ac yna dod o hyd i fecanwaith ymdopi iachus yn ei le. Darllen rhagor : Ymdopi â dibyniaeth

Dolenni allanol

Ffynonellau: Mind, RCPSYCH, NHS, Ystafell Fyw, GamCare, Beating Addictions a Blurt