Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif
Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD)
Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (Premenstrual Dysphoric Disorder – PMDD) yn fath difrifol iawn o Syndrom Cyn Mislif (Premenstrual Syndrome – PMS), sy’n medru achosi nifer o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod, neu’r wythnos neu ddwy cyn i chi ddechrau, eich mislif.
Er y bydd nifer o bobl sy’n cael mislif yn profi symptomau PMS, mae symptomau PMDD yn llawer gwaeth, a gallant gael effaith difrifol ar eich bywyd. Gall PMDD ei gwneud hi’n anodd gweithio, cymdeithasu a chynnal perthnasau iach. Mewn rhai achosion, gall hefyd arwain at feddyliau hunanladdol.
Ydy PMDD yn broblem iechyd meddwl?
Yn gyffredinol, diffinnir PMDD fel anhwylder endocrin, sy’n golygu ei fod yn anhwylder sy’n gysylltiedig â hormonau. Fodd bynnag, yn ogystal â symptomau corfforol, mae pobl sydd â PMDD hefyd yn profi amrywiaeth o symptomau iechyd meddwl gwahanol megis iselder a theimladau hunanladdol. Oherwydd hynny, mae PMDD yn ddiweddar wedi ei gofnodi fel problem iechyd meddwl yn y DSM-5 – un o’r prif lawlyfrau y mae meddygon yn ei ddefnyddio i roi diagnosis o broblemau iechyd meddwl.
Beth yw symptomau PMDD?
Dyma rai o brif symptomau emosiynol PMDD:
- Hwyliau cyfnewidiol
- Teimlo’n ypsét neu’n ddagreuol
- Teimlo’n flin
- Teimladau o orbryder
- Teimlo’n anobeithiol
- Teimladau o densiwn
- Anhawster canolbwyntio
- Teimlo wedi eich llethu
- Diffyg egni
- Llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau y byddwch fel arfer yn eu mwynhau
- Teimladau hunanladdol
Yn gyffredinol, byddwch ond yn profi’r symptomau hyn wythnos neu ddwy cyn i’ch mislif ddechrau. Mae’r symptomau yn dilyn cylchred eich mislif, felly mae’n bosib bydd y symptomau’n dechrau gwella pan fyddwch chi’n cael eich mislif, ac fel arfer wedi diflannu erbyn i’ch mislif orffen.
PMDD a theimladau hunanladdol
I rai, un o’u symptomau misol yw meddyliau am hunanladdiad. Gall hyn fod yn andros o drallodus. Os ydych chi’n profi teimladau hunanladdol ac yn poeni y gallech chi weithredu arnynt, gallwch alw 999, mynd yn syth i A&E, neu ffonio’r Samariaid am ddim (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7 – 11pm, 7 diwrnod yr wythnos. Llinell Saesneg: 116 123, 24/7).
Ymdopi gyda PMDD
- Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo
- Cysylltu â sefydliad arbenigol
- Dysgu am eich cylchred
- Creu blwch hunanofal
- Gofalu am eich lles emosiynol a chorfforol
- Cadw cofnod o’r symptomau
- Cymorth meddygol proffesiynol
Dolenni allanol
Ffynhonnell: Mind