Clywed Lleisiau
Hearing Voices
Mae clywed lleisiau yn fath o rithweledigaeth (‘hallucination’) lle mae pobl yn clywed llais pan nad oes unrhyw un arall yn bresennol, neu lle nad yw pobl eraill yn eu clywed.
Mae’n gred gyffredin bod clywed lleisiau yn golygu bod gennych broblem iechyd meddwl, ond mae ymchwil yn dangos bod clywed lleisiau yn brofiad cyffredin, ac nid yw o reidrwydd yn arwydd o salwch meddwl.
Mae gan seiciatryddion, seicolegwyr a’r bobl sy’n clywed lleisiau theorïau anghyson ynglŷn â pham fod pobl yn clywed lleisiau. Mae rhai pobl yn dechrau clywed lleisiau o ganlyniad i straen neu drawma eithafol.
I rai, mae clywed lleisiau yn brofiad positif gan fod y lleisiau yn gyfeillgar ac yn gefnogol, ond i eraill, gall fod yn brofiad brawychus iawn os yw’r lleisiau yn gwneud sylwadau negyddol am y person.
Dolenni allanol
- Ffynonnellau: Mind, WWAMH, MHFA Wales