Tabledi cysgu a thawelyddion

Sleeping pills and minor tranquillisers

Defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion fel triniaeth tymor byr ar gyfer problemau cysgu difrifol neu gorbryder difrifol.

Ni allant wella gorbryder na phroblemau cysgu gan nad ydynt yn mynd i’r afael ag achosion y problemau, ond gallant helpu drwy eich gwneud yn fwy ymlaciedig yn y tymor byr.

Maent yn gweithio drwy arafu eich corff a’ch ymennydd. Er enghraifft, drwy arafu eich anadlu, eich curiad calon a’ch meddwl.

Ceir dau fath o dawelyddion gwahanol: hypnotics – a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer problemau cysgu, ac anxiolytics – a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gorbryder.

Hypnotic Benzodiazepines

  • Flurazepam (Dalmane)
  • Loprazolam
  • Lormetazepam
  • Nitrazepam (Mogadon)
  • Temazapam

Anxiolytic Benzodiazepines

  • Alprazolam
  • Chlordiazepoxide Hydrochloride
  • Diazepam (Rimapan)
  • Lorazepam (Ativan)
  • Oxazepam
  • Clobazam (Tapclob)

Mae gan Mind a YoungMinds wybodaeth am y meddyginiaethau unigol.

(Ffynonellau: Mind a Rethink)

Dolenni allanol