Seicosis

Psychosis

‘Seicosis’ yw’r gair sy’n disgrifio profiad o golli cysylltiad â realiti.

Mae cysylltiad rhwng seicosis â sgitsoffrenia, anhwylder sgitsoeffeithiol, seicosis ôl-enedigol ac iselder difrifol. Caiff hefyd yn aml ei brofi’n ystod cyfnodau ‘uchel’ a brofir gan unigolyn ag anhwylder deubegynol. Gall cyflyrau eraill fel dementia arddangos symptomau seicotig hefyd.

Symptomau cyffredin

  • Clywed lleisiau
  • Rhithweledigaethau – gweld pethau nad yw eraill yn eu gweld
  • Credu neu feddwl am bethau anarferol, a gaiff eu hystyried yn rhyfedd gan eraill
  • Profi bod eu canfyddiad o amrywiol bethau a sefyllfaoedd yn newid
  • Rhoi ystyr personol i wrthrychau pob-dydd
  • Profi meddyliau paranoid

Ynglŷn â seicosis

Mae seicosis yn disgrifio sefyllfa ble mae nifer o symptomau neu brofiadau yn digwydd ar yr un pryd.  Bydd symptomau’n amrywio rhwng wahanol bobl, ond y brif nodwedd gyffredin yw nad ydyn nhw’n dueddol o brofi realiti yn yr un modd ag eraill.

Bydd rhai pobl yn profi un ‘episod’ yn unig o seicosis yn ystod eu bywyd, gan wella’n llwyr ar ei ol. Ond, i nifer, gall fod yn broses tipyn hirach. Mae’n bosib y bydd unigolyn sy’n dioddef seicosis yn:

  • clywed, arogli, teimlo neu weld pethau yn wahanol i eraill (rhith-weld);
  • meddwl am neu gredu ym mhethau rhyfedd sy’n aml yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu rheoli neu eu haflonyddu (rhithdybiau);
  • ymddangos yn gynhyrfus neu fel eu bod yn tynnu’n ôl oddi wrth eraill ac yn osgoi cysylltiad gyda phobl

Fodd bynnag, yn aml iawn ni fydd unigolyn sy’n byw â seicosis yn sylweddoli fod unrhyw beth o’i le (diffyg dirnadaeth).

Gwneud diagnosis

Oherwydd tebygrwydd symptomau seicosis i’r rheiny a brofir gyda sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac iselder seicotig, does dim un prawf penodol ar ei gyfer. Profir symptomau a chyrrhaeddir diagnosis drwy siarad â’r unigolyn a pherthynas neu ffrind agos er mwyn deall hanes yr unigolyn yn ogystal â beth arall all fod yn achosi’r symptomau.

Triniaethau

Bydd meddyginiaeth yn cael ei roi cyn gynted ag y bo modd er mwyn ceisio helpu gyda’r symptomau mwyaf annifyr a gall hyn helpu’r posiblrwydd y bydd mathau eraill o gymorth yn llwyddiannus.  Defnyddir nifer o wahanol driniaethau ar y cyd â’r feddyginiaeth, neu ar eu pen eu hunain.  Mae’r rhain yn cynnwys therapïau siarad (seicotherapi) a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).  Yn aml hefyd, bydd y pecyn gofal yn nodi’r angen i dderbyn therapi teulu fel rhan greiddiol o’r ymyrraeth.

Ffynonellau: Gofal, Mind a RCPSYCH