Teimladau Hunanladdol
Suicidal Feelings
RHYBUDD: Os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw eich hun yn ddiogel ar hyn o bryd, dylech gael help ar unwaith. Ewch i unrhyw adran A&E mewn ysbyty, ffoniwch 999, neu gofynnwch i rywun ffonio ar eich rhan. Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg, 7–11pm bob nos) neu 116 123 (Saesneg, 24/7). Gweler hefyd ein tudalen Cymorth.
Hunanladdiad yw’r weithred fwriadol o ladd eich hun.
Gall teimladau hunanladdol amrywio o syniadau haniaethol am orffen eich bywyd, teimlo y byddai pobl yn well eu byd heboch chi, meddwl am ffyrdd o ladd eich hun, neu wneud cynlluniau clir i ddod â’ch bywyd i ben.
Os ydych yn teimlo nad oes pwrpas byw, gallai’r teimladau hynn godi ofn arnoch neu wneud i chi deimlo’n ddryslyd. Efallai y bydd y teimladau’n eich llethu. Ond, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl yn meddwl am hunanladdiad ar ryw adeg neu’i gilydd yn eu bywydau.
Mae gan Mind gyngor ar sut allwch chi helpu eich hun nawr, ac yn yr hirdymor.
Beth i wneud mewn argyfwng iechyd meddwl?
Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd aros yn ddigyffro os oes rhywun yn cael argyfwng iechyd meddwl ac efallai y byddwch yn ei gael yn frawychus. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y gall gweithredu’n dosturiol wneud llawer i gynorthwyo rhywun sydd mewn trallod. Byddwch yn hyderus ynghylch eich gallu i’w helpu, a chofiwch nad oes angen i chi fod yn arbenigwr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio’n llwyr ar yr unigolyn a dangoswch eich bod yn gwrando. Y peth pwysicaf yw dangos eich bod yn poeni a sicrhau nad yw’r unigolyn yn teimlo ar ei ben ei hun. (darllen rhagor)
Mewn argyfwng? Gall y 12 gweithred hyn helpu
Weithiau, gall ein hiselder ein harwain i stryglo â meddyliau a theimladau am hunanladdiad. Mae teimlo fel’na yn ofnadwy.
Gall fod yn eithriadol o anodd delio ag ef a gall arwain at wneud i ni deimlo’n bell iawn oddi wrth bawb arall. Dydyn ni ddim yn gwybod sut i gario mlaen.
Waeth pa mor dywyll mae pethau’n ymddangos, mae angen i ni ddal ati. Dydyn ni byth ar ein pen ein hun. Mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu. (Darllen rhagor)
Ymdopi ar ôl ymgais hunanladdiad
Gall mynd trwy ymgais hunanladdiad ac ymdopi gyda’r dyddiau a’r wythnosau canlynol deimlo’n orlethol. Efallai y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau gwahanol, a gall y rhain newid dros amser. Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae’n iawn.
Efallai y byddwch yn teimlo:
- Rhyddhad – efallai y byddwch yn teimlo rhyddhad eich bod wedi goroesi’r ymgais. Neu efallai y byddwch chi’n teimlo rhyddhad bod pobl o’ch cwmpas bellach yn ymwybodol o sut rydych chi’n teimlo.
- Di-deimlad – efallai na fyddwch chi’n teimlo dim, neu ymdeimlad o wacter, ar ôl goroesi ymgais hunanladdiad.
- Siomedig – er enghraifft, oherwydd eich bod wedi goroesi’r ymgais.
- Dicter – efallai y byddwch chi’n teimlo’n ddig am geisio dod â’ch bywyd i ben. Neu’n ddig eich bod chi’n dal yn fyw. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n ddig am sut mae pobl eraill wedi ymateb i’ch ymgais.
- Cywilydd – efallai y byddwch chi’n teimlo cywilydd. Gall hyn fod yn deimlad anghyfforddus iawn.
- Euog – efallai bydd hyn yn ymwneud â’r ymgais ei hun. Neu am yr effaith y mae eich ymgais wedi’i chael ar y bobl o’ch cwmpas.
- Embaras – efallai y byddwch yn teimlo embaras am geisio hunanladdiad, yn enwedig wrth ddweud wrth bobl amdano.
- Ar eich pen eich hun – efallai eich bod yn teimlo nad yw pobl yn deall pam eich bod wedi ceisio hunanladdiad, neu fel na allwch siarad â nhw amdano. Neu efallai nad oes unrhyw un yn gwybod eich bod wedi gwneud ymgais hunanladdiad.
- Edifeirwch – efallai y byddwch chi’n difaru gwneud ymgais hunanladdiad. Neu efallai y byddwch chi’n teimlo edifeirwch eich bod chi wedi goroesi.
- Ofn – os oeddech chi’n teimlo mai hunanladdiad oedd eich unig opsiwn, efallai y byddwch chi’n teimlo’n ansicr am eich dyfodol.
- Wedi drysu – efallai bod gennych gymysgedd o emosiynau cadarnhaol a negyddol, sy’n ei gwneud hi’n anodd disgrifio sut yn union rydych chi’n teimlo.
Efallai y byddwch hefyd yn teimlo emosiynau anodd os nad dyma’r tro cyntaf i chi wneud ymgais hunanladdiad. Ni waeth faint o weithiau rydych chi wedi gwneud ymgais hunanladdiad, dylech chi dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Darllen rhagor: Mind
Dolenni allanol
- Y Boen Eithaf : BBC
- Teimladau hunanladdol : mind.org.uk
- ‘Ydych chi’n teimlo eich bod ar y dibyn?’ : Coleg Brenhinol Seiciatryddion
- Cefnogaeth yn dilyn hunanladdiad : Survivors of Bereavement by Suicide (pdf)
- Canllaw ar hunanladdiad a hunan-niwed i gefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd : Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell: Mind