Sgitsoffrenia
Schizophrenia
Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy’n effeithio ar y ffordd rydych chi’n meddwl, a gall y symptomau effeithio ar y ffordd rydych chi’n ymdopi gyda bywyd o ddydd i ddydd.
Yn groes i’r gred gyffredin, nid yw sgitsoffrenia yn golygu ‘personoliaeth hollt’. Daw’r term ‘sgitsoffrenia’ o’r term Groeg am ‘feddwl toredig’, sy’n cyfeirio at y newidiadau i’r ffordd mae’r meddwl yn gweithio pan fydd meddyliau a thybiaethau yn dod yn anhrefnus.
Nid yw sgitsoffrenia yn gwneud i bobl fod yn beryglus nac yn fwy tebygol o gyflawni trosedd. Mae ymchwil wedi dangos mai dim ond canran fach o bobl sydd â’r salwch hwn sy’n dreisgar. Mae pobl sydd â sgitsoffrenia yn llawer mwy tebygol o gael eu niweidio gan bobl eraill nag ydynt o niweidio pobl eraill.
Bydd sgitsoffrenia’n effeithio ar tua 1 o bob 100 o bobl. Fel rheol, bydd yn dechrau tua diwedd glaslencyndod neu wrth ddechrau tyfu’n oedolyn, a’r duedd yw iddo ddechrau ychydig yn hwyrach mewn menywod nag mewn dynion.
Symptomau cyffredin
Rhithdybiau (delusions)
Credoau nad ydynt yn seiliedig ar realti, er enghraifft, credu bod gennych genhadaeth arbennig, neu eich bod o dan reolaeth allanol. Er bod rhithdybiau yn ymddangos yn rhyfedd i bobl eraill, maen nhw’n hynod o wir i’r person sy’n eu cael nhw.
Rhithweledigaethau (hallucinations)
Tybiaethau anghywir, er enghraifft, clywed, gweld, teimlo, blasu neu arogli pethau nad yw pobl eraill yn eu clywed, gweld, teimlo, blasu neu arogli. Gall rhithweledigaethau fod yn frawychus iawn, yn enwedig os yw’r lleisiau yn gwneud sylwadau negyddol am y person. Gan fod rhithweledigaethau mor wir iddynt, mae’n gyffredin i bobl sydd â Sgitsoffrenia beidio â bod yn ymwybodol eu bod nhw’n sâl.
Dryswch meddwl
Weithiau caiff pobl drafferth wrth gyfleu eu meddyliau a gall hynny ei gwneud hi’n anodd dilyn yr ystyr. Gall hynny effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio, i gofio pethau, i wneud penderfyniadau ac i gynllunio.
Symptomau eraill
- Diffyg ysgogiad
- Colli diddordeb mewn bywyd a gweithgareddau
- Newidiadau i’r patrwm cysgu
- Teimlo’n anghyfforddus gyda phobl a ddim eisiau cymdeithasu
- Colli eich meddyliau a theimladau arferol
- Diffyg egni a chymhelliad i ofalu am eich hun
Triniaeth
Gall pobl sy’n derbyn triniaeth briodol fyw bywydau cynhyrchiol a bodlon, neu hyd yn oed wella. Gellir trin sgitsoffrenia gyda meddyginiaeth gwrth-seicotig, meddyginiaeth gwrth-iselder, seicoaddysg a Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT).
Dolenni allanol
- Sgitsoffrenia : Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (pdf)
- Schizophrenia : Rethink (Saesneg)
- What is schizophrenia? : Mind (Saesneg)