Meddyginiaeth
Medication
Yn gyffredinol, ni all cyffuriau seiciatrig wella problem iechyd meddwl yn llwyr. Ond mewn rhai achosion, maent yn gallu helpu lleihau symptomau neu’ch helpu i ymdopi â nhw yn well. Mae cael cynnig meddyginiaeth neu beidio yn dibynnu ar eich diagnosis, eich symptomau a pha mor ddifrifol yw effaith y cyflwr arnoch chi.
Mae llawer o fathau eraill o driniaethau ar gael yn ogystal â meddyginiaeth. Mae llawer o bobl yn defnyddio cyfuniad o feddyginiaeth a thriniaethau eraill, megis triniaeth siarad, i reoli eu cyflwr.
Pa mor hir fydd angen cymryd meddyginiaeth?
Eto, mae hyn yn dibynnu ar eich diagnosis a pha mor ddifrifol yw effaith y cyflwr arnoch chi. Ar gyfer rhai cyflyrau, megis iselder neu episod o seicosis, byddai disgwyl i chi gymryd meddyginiaeth am gyfnod penodol o amser yn unig.
Os ydych wedi cael sawl episod o afiechyd meddwl, fel y gallai ddigwydd gyda sgitsoffrenia neu anhwylder deubegwn, gall eich meddyg eich cynghori i aros ar eich meddyginiaeth am sawl blwyddyn, neu am gyfnod amhenodol.
Pwy sy’n gallu rhagnodi meddyginiaeth?
Gellir rhagnodi meddyginiaeth seiciatrig gan:
- Meddyg Teulu
- Seiciatrydd
- Nyrs-ragnodydd – fel arfer yn gysylltiedig â’ch meddygfa neu’ch tîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT).
Pa fathau o feddyginiaeth sydd ar gael?
Mae pedwar categori o feddyginiaeth i drin anhwylderau iechyd meddwl i gael:
Beth ddylwn i wybod cyn imi gymryd meddyginiaeth?
Cyn penderfynu cymryd unrhyw gyffur, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod gennych yr holl ffeithiau er mwyn medru penderfynu. Fel man cychwyn, dylech deimlo’n hyderus i ateb ‘ie’ i bob un o’r datganiadau isod.
Rwy’n deall
- beth yw’r cyffur
- pam rwyf wedi cael cynnig y cyffur
- pa driniaethau amgen sydd ar gael, megis triniaethau siarad neu grwpiau cefnogi lleol
- beth yw’r manteision a’r risgiau posibl, gan gynnwys a oes risg o ddod yn ddibynnol ar y cyffur
- beth yw’r sgil-effeithiau posibl
- sut, pryd a faint ddylwn gymryd
- am faint mae fy meddyg yn disgwyl i mi gymryd y cyffur
- sut mae storio’r cyffur yn ddiogel (er enghraifft, yn yr oergell)
- sut mae rhoi’r gorau i gymryd y cyffur yn ddiogel
- pa enwau gwahanol sydd gan y cyffur.
Rwyf wedi:
- gwirio’r rhestr gynhwysion ac rwyf yn gwybod nad oes dim yn y cyffur hwnnw rwyf ag anoddefiad iddo, neu nad ydwyf am ei gymryd (megis lactos neu gelatin).
- darllen y Daflen Wybodaeth Glaf (PIL) sy’n dod yn y pacedi cyffur, ac yn deall yr hyn a ddywed; os ydych yn yr ysbyty, neu nad ydych yn cael PIL gyda’ch meddyginiaeth, gallwch ofyn i’ch meddyg neu fferyllydd am gopi.
Rwyf wedi dweud wrth fy meddyg:
- os wyf yn cymryd unrhyw feddyginiaeth arall, gan gynnwys meddyginiaethau di-bresgripsiwn
- os oes gennyf unrhyw broblemau iechyd eraill
- os wyf yn feichiog neu’n bwydo o’r fron
- am unrhyw brofiadau blaenorol sydd gennyf o gymryd meddyginiaeth seiciatrig – er enghraifft, beth oedd yn gweithio, beth nad oedd yn gweithio ac unrhyw sgil-effeithiau cefais.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw un o’r manylion hyn dylech ofyn i’ch meddyg neu’ch fferyllydd.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn ymwybodol o unrhyw sgil-effeithiau posib yn ogystal â beth i’w wneud os ydych chi’n ystyried dod oddi ar y feddyginiaeth.
Sut ydw i’n gwybod bod cyffur yn iawn i mi?
Nid yw cyffuriau yn gweithio yn yr un modd i bawb, felly pan fydd eich meddyg yn penderfynu pa feddyginiaeth i’w gynnig i chi, nid oes modd iddynt ragweld yn union pa un fydd y gorau i chi bob tro.
Er mwyn helpu i sicrhau y cewch y feddyginiaeth sy’n gweithio i chi, gallwch:
- trafod unrhyw broblemau gyda’ch meddyg
- gofyn am ail farn
- adolygu eich meddyginiaeth yn rheolaidd
- trefnu Adolygiad o’r Defnydd o Feddyginiaethau gan eich fferyllydd
Cofiwch:
- gall fferyllwyr roi gwybodaeth i chi am gyffuriau seiciatrig yn ogystal â meddygon teulu.
- mae gan y rhan fwyaf o fferyllwyr stryd fawr ystafell ymgynghori breifat os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn trafod eich presgripsiwn dros y cownter.
- gallwch fynd â rhestr o gwestiynau gyda chi er mwyn helpu’ch hunan i gofio popeth rydych eisiau gofyn.
- mae rhai cyffuriau yn cymryd amser i ddechrau gweithio, felly efallai y bydd angen eu cymryd am wythnos neu ddwy cyn penderfynu os ydynt yn addas i chi.
- os ydych wedi cael presgripsiwn, mae dewis gennych o hyd i’w cymryd – neu beidio. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl.
(Ffynhonnell: Mind)