Anhwylder Straen Wedi Trawma

Post Traumatic Stress Disorder (PTSD)

Casgliad o symptomau y bydd rhai unigolion yn eu datblygu yn dilyn digwyddiad trawmatig yw Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Weithiau, bydd y digwyddiad yn achos unigol neu gallent fod yn gasgliad o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle dros nifer o fisoedd neu flynyddoedd. 

Wrth feddwl am PTSD, bydd nifer yn ystyried unigolion sy’n byw ag o yn dilyn profiadau trawmatig tra’n gwasanaethu’n y lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae’n gallu effeithio unrhyw un sydd wedi profi sefyllfa trawmatig.

Gall ystod o wahanol ddigwyddiadau achosi PTSD; damweiniau ffordd difrifol, cam-driniaeth neu drais rhywiol, trais domestig neu gorfforol arall, poenydio, genedigaeth drawmatig, bod yn dyst i farwolaeth neu unrhyw sefyllfa arall arbennig o fygythiol neu drychinebus sy’n debygol o achosi trallod i bron unrhyw un.

Symptomau cyffredin

  • Ail-fyw’r digwyddiad drwy ôl-fflachiadau neu hunllefau;
  • Osgoi lleoliadau neu phethau sy’n ymwneud â’r digwyddiad;
  • Problemau cysgu;
  • Diffyg gallu canolbwyntio;
  • Pyliau o banig;
  • Pryder ac anniddigrwydd;
  • Teimlo’n euog neu â chywilydd.

Beth allai helpu?

  • Mae’n bwysig i geisio peidio bod yn hunan-feirniadol am y problemau rydych yn eu profi;
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi amser a lle i chi’ch hun allu cydnabod y profiadau a gawsoch;
  • Gwarchod eich iechyd.  Ceisiwch sicrhau bod eich deiet yn iach a chytbwys a’ch bod yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff yn rheolaidd;
  • Ceisiwch beidio a syrthio i’r cylch dieflig o fod ar eich pen eich hun gan ymwrthod â gweithgareddau cymdeithasol gyda’r rheiny sydd agosaf atoch ac yn poeni amdanoch. Mae cefnogaeth agos ganddyn nhw’n hanfodol;
  • Ceisiwch gydnabod eich llwyddiannau bob dydd, dim ots pa mor fychan;
  • Cofiwch am eich cryfderau. Mae atgoffa’ch hun o’r rhain a’ch gallu i ymdopi yn ystod cyfnodau anodd yn gallu bod yn ysgogaeth;
  • Gwnewch eich gorau i gadw at eich trefn arferol. Os fyddwch chi’n cael diffyg cwsg, ceisiwch beidio ag ildio i’r temtasiwn o gysgu ar adeg annaturiol o’r dydd gan gadw at amseroedd gwely a chodi rheolaidd.  Ceisiwch osgoi caffein ar ôl 4 o’r gloch y prynhawn hefyd. Mae tê a choffi heb gaffein i’w gael, yn ogystal ag amrywiaeth o dê naturiol;
  • Gofynnwch am gymorth. Trafodwch yr hyn sy’n eich poeni gyda rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt. Ewch i weld eich meddyg teulu. Mae nifer o opsiynau a all helpu.

Triniaethau

Ystyrir mai therapïau seicolegol yw’r mwyaf effeithiol wrth drin PTSD. Yn benodol, dengys tystiolaeth bod dau fath penodol o’r therapïau hyn yn effeithiol: Therapi Ymddygiad Gwybyddol â Ffocws ar Drawma (TFCBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR).

Therapïau Ymddygiad Gwybyddol â Ffocws ar Drawma (TFCBT)

Mae’r rhain yn cynnwys sawl ffurf ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Gall y triniaethau hyn helpu’r unigolyn i wynebu eu hatgofion trawmatig drwy siarad ac ysgrifennu am y digwyddiad. Gall hefyd fod o gymorth i herio ac adnabod meddyliau negyddol, yn cynnwys teimladau megis euogrwydd, anniddigrwydd neu chywilydd. Gall hefyd annog rywun i fynd yn ôl a gwneud gweithgareddau y buont yn eu hofn oherwydd eu cysylltiad â’r trawma.

Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR)

Gall y technegau’n y therapi yma hefyd helpu unigolion i wynebu eu hatgofion trawmatig. Wrth dderbyn therapi, byddent yn canolbwyntiau ar deimladau a meddyliau sy’n gysylltiedig â’r trawma, tra’n canolbwyntio ar rywbeth arall ar yr un pryd. Yn aml, defnyddir y weithgaredd o ddilyn symudiadau bys y therapydd.

Bydd opsiynau eraill megis meddyginiaeth a thechnegau rheoli straen hefyd weithiau’n cael eu defnyddio i geisio trin PTSD.

Cymorth

Os ydych chi’n poeni eich bod yn byw â PTSD, dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu‘n gyntaf.

Bydd y meddyg yn penderfynu os oes angen eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd meddwl sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) neu unrhyw wasanaeth broffesiynol arall, yn ddibynnol ar eich hanghenion.

Mewn achos lle’ch cyfeirir at eich TIMC lleol, cewch asesiad fanylach.  Mae’n bosibilrwydd y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arbenigol neu dderbyn cymorth gan y tîm ei hun.

Rwy’n bartner, yn deulu neu’n ofalwr i unigolyn sy’n byw â PTSD. Beth ddylwn i ei wneud?

  • Gwnewch eich gorau i osgoi beirniadu’r unigolyn a’u modd o ymdopi – mae angen cofio eu bod wedi profi pethau gofidus iawn;
  • Ceisiwch ddangos amynedd a dealltwriaeth;
  • Ceisiwch beidio â chymryd effaith unrhyw rai o’u symptomau i galon nac fel rhywbeth personol. Gall fferdod emosiynol, dicter ac ynysu’i hunain fod yn symptomau cyffredin ac felly os ydynt i’w weld yn pellhau oddi wrthych neu’n anniddig, cofiwch nad yw hynny o reidrwydd yn ymwneud â chi;
  • Ceisiwch helpu’r unigolyn i gydnabod ei gryfderau – yn enwedig os ydynt yn teimlo’n anobeithiol neu â chywilydd am eu cyflwr a’r modd y maent yn ymdopi ag o;
  • Os nad yw’r unigolyn yn barod i siarad am eu profiadau, peidiwch a’u gorfodi.  Yn hytrach, gadewch iddynt wybod eich bod yno i wrando petaent yn penderfynu gwneud hynny;
  • Anogwch yr unigolyn i osod nodau bach iddyn nhw’u hunain yn ddyddiol a chydnabod eu llwyddiant yn hynny o beth;
  • Ceisiwch eu helpu hefyd i sefydlu trefn arferol i’w bywyd er mwyn adfer rhywfaint o reolaeth drosto;
  • Cynghorwch hwy i geisio cymorth proffesiynol; mae gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu yn ddechrau da.

Dolenni allanol