Anhwylder Deubegynol
Bipolar Disorder
Mae anhwylder affeithiol deubegwn (bipolar disorder) yn salwch a gysylltir â newidiadau eithafol mewn hwyliau, sy’n symud rhwng cyfnodau o or-hapusrwydd (mania neu hypomania) a chyfnodau o iselder.
Efallai y byddwch hefyd yn profi seicosis, all gynnwys credu pethau nad ydynt yn wir (rhithdybiaethau) a gweld neu glywed pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd (rhithwelediadau).
Yn naturiol, mae hwyliau pawb yn amrywio, ond i unigolion sy’n byw â’r anhwylder hwn gall y newidiadau hyn effeithio’n fawr ar eich bywyd. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo bod eich adegau uchel ac isel yn eithafol, a bod y newid rhwng y pegynnau’n eich llethu.
Symptomau cyffredin
Cyfnodau manig
Bydd unigolyn mewn cyfnod fel hyn yn…
- ei chael yn anodd i reoli cyffro
- darganfod bod ganddynt fwy o egni rhywiol
- anesmwyth ac yn gyffrous
- hapus neu’n ewfforig
- teimlo’n anorchfygol (invincible)
- cael trafferth canolbwyntio gan fod eu meddyliau’n rhuthro
- teimlo ei fod yn haws na’r arfer i gyflawni tasgau corfforol a meddyliol
Gallent fod yn…
- fwy egnïol
- fentrus ac yn barod i risgio’u diogelwch
- cysgu prin dim
- camddefnyddio sylweddau fel alcohol neu gyffuriau
- gwario llawer o arian mewn modd amhriodol
- yn siarad lot ac yn gyflymach
O gymharu â chyfnodau o mania, mae symptomau hypomanig yn debygol o fod yn haws i’w rheoli, a hynny gan nad ydynt yn parhau cyhyd nac mor debygol o gynnwys symptomau seicotig.
Cyfnodau o iselder
Bydd unigolion mewn cyfnod fel hyn yn teimlo:
- tristwch a diobaith
- wedi blino a diffyg egni
- yn ddi-ddiddordeb mewn gweithgareddau roeddent yn arfer eu mwynhau
- gynyddol bryderus a gofidus
- ei bod yn anodd canolbwyntio a gwneud penderfyniadau syml neu gofio digwyddiadau
- fod eu harferion bwyta yn newid
- fod eu hunan-barch yn isel a’u bod yn teimlo’n euog am bethau heb reswm
- yn unig ac wedi’u hynysu o eraill
- eu bod yn meddwl llawer am farwolaeth a hunanladdiad
Cyfnodau cymysg
Weithiau, byddwch yn profi symptomau iselder a mania neu hypomania ar yr un pryd. Gall fod yn eithriadol o anodd ymdopi â’r cyfnodau yma a elwir yn gyfnodau cymysg neu’n gyflyrau cymysg.
Dolenni allanol
Ffynonellau: Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol, Gofal Cymru a Mind