Anhwylder Sgitsoaffeithiol

Schizoaffective disorder

Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn gyflwr lle y mae symptomau seicotig a symptomau sy’n ymwneud â hwyliau’n bresennol gyda’i gilydd, neu o fewn cyfnod o bythefnos, yn ystod un episod.

Mae gan y gair ‘sgitsoaffeithiol’ ddwy ran: ‘sgitso–’ sy’n cyfeirio at y symptomau seicotig, ac ‘affeithiol’ sy’n cyfeirio at y symptomau sy’n ymwneud â hwyliau.

Mae rhai wedi awgrymu y gellir gosod anhwylder sgitsoaffeithiol yng nghanol continwwm, gyda sgitsoffrenia ar un pen ac anhwylder deubegwn ar y llall. Fodd bynnag, ystyrir anhwylder sgitsoaffeithiol fel diagnosis ar wahân i sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, er eu bod yn rhannu symptomau tebyg.

Efallai y bydd pobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol yn profi cyfnodau lle y maent yn ei chael hi’n anodd gofalu am eu hunain neu phan fydd meddygon yn credu nad ydynt yn llwyr ymwybodol o’u hymddygiad a sut maen nhw’n teimlo. Ond efallai byddant yn cael cyfnodau rhwng episodau pan fyddant yn teimlo’n well hefyd.

Gall episodau amrywio o ran hyd. Mae rhai pobl yn profi sawl episod ond nid yw hyn o reidrwydd yn digwydd i bawb. Mae symptomau fel arfer yn dechrau mewn oedolion ifanc.

Mathau o anhwylder sgitsoaffeithiol

Mae symptomau seicotig a symptomau sy’n ymwneud â hwyliau yn bresennol gydag anhwylder sgitsoaffeithiol, ac yn yr un modd ag y mae mwy nag un math o anhwylder hwyliau, mae mwy nag un math o anhwylder sgitsoaffeithiol hefyd:

  • Math manig: Gyda’r math hwn bydd symptomau seicotig a manig yn digwydd o fewn un episod.
  • Math isel: Gyda’r math hwn bydd symptomau seicotig ac isel yn digwydd ar yr un adeg o fewn un episod.
  • Math cymysg: Gyda’r math hwn, mae symptomau seicotig ynghyd â symptomau manig ac isel yn digwydd. Fodd bynnag, mae’r symptomau seicotig yn annibynnol ac nid ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â’r symptomau anhwylder deubegwn.

Ffynhonnell: mind.org.uk