Dolenni cymorth

Dolenni a rhifau ffôn.

Aching Arms

Mae Aching Arms yn eich helpu a’ch cefnogi pan fyddwch wedi profi’r torcalon o golli’ch babi yn ystod beichiogrwydd, adeg ei eni, neu’n fuan wedi hynny. Cliciwch ar y logo ‘sgwrsio’ isod i ddarllen gwybodaeth am yr elusen yn Gymraeg.

Adferiad Gwasanaeth Cymraeg

Darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, caethiwed, a phroblemau cymhleth eraill.

Alcohol Change Gwasanaeth Cymraeg

Gweithio i leihau’r niwed difrifol sy’n dod o oryfed.

Amser i Newid Cymru Gwasanaeth Cymraeg

Ymgyrch i roi diwedd ar y stigma a wynebir gan bobl sydd efo problemau iechyd meddwl.

Anxiety UK

Cymorth i bobl sy’n byw gydag anhwylderau gorbryder a ffobiâu.

Ap Cwtsh Gwasanaeth Cymraeg

Ap ymwybyddiaeth ofalgar yn Gymraeg.

Area 43 Gwasanaeth Cymraeg

Gwasanaeth cwnsela, gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc dan 25 yng Ngheredigion a …

Barod Gwasanaeth Cymraeg

Cymorth ac arweiniad i rai sy’n cael eu heffeithio gan eu harferion defnyddio alcohol neu gyffuriau, neu gan arferion rhywun arall.

Beat Gwasanaeth Cymraeg

Cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan anhwylderau bwyta.

Bipolar UK

Cefnogaeth i bobl sydd wedi ei heffeithio gan Anhwylder Deubegwn.

Black Minds Matter

Yn cysylltu unigolion Du a’u teuluoedd gyda chymorth iechyd meddwl proffesiynol am ddim yn y Deyrnas Unedig.

Byw Heb Ofn Gwasanaeth Cymraeg

Cyngor a chymorth ar drais, cam-drin domestig a thrais rhywiol.