Anhwylder Dysmorffia’r Corff
Body Dysmorphic Disorder (BDD)
Mae Anhwylder Dysmorffia’r Corff (Body Dysmorphic Disorder – BDD) yn anhwylder gorbryder sy’n achosi person i gamfarnu sut maen nhw’n edrych ac i dreulio llawer o amser yn poeni am eu hymddangosiad.
Er enghraifft, efallai y bydd yn argyhoeddedig bod craith sydd bron yn anweladwy yn nam corfforol y mae pawb yn syllu arno, neu fod eu trwyn yn edrych yn annormal.
Nid yw cael BDD yn golygu bod person yn ymffrostgar neu gydag obsesiwn am eu hunan. Gall BDD effeithio ar fywyd bob dydd mewn modd difrifol ac yn aml mae’n effeithio ar waith, bywyd cymdeithasol a pherthynas person â phobl eraill.
Er nad yw BDD yr un fath ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), ceir rhai nodweddion tebyg. Er enghraifft, efallai y bydd y person yn gorfod ailadrodd pethau penodol, megis cribo eu gwallt, coluro, neu dynnu eu croen er mwyn ei wneud yn “esmwyth.” Gall BDD hefyd arwain at iselder, hunan-niweidio a hyd yn oed meddyliau am hunanladdiad.
Symptomau cyffredin
- Cymharu eu pryd a’u gwedd â phobl eraill yn gyson
- Treulio amser maith o flaen y drych, ond ar adegau eraill osgoi drychau yn gyfan gwbl
- Treulio amser maith yn cuddio’r hyn maent yn ystyried yn nam corfforol
- Teimlo yn dorcalonnus am ran benodol o’u corff (fel arfer eu hwyneb)
- Bod yn gyfrinachol iawn ac yn amharod i ofyn am gymorth, oherwydd y credant y bydd pobl eraill yn meddwl eu bod yn ymffrostgar neu gydag obsesiwn am eu hunan
- Chwilio am driniaeth feddygol ar gyfer y nam corfforol canfyddedig – er enghraifft, efallai y byddant yn cael llawdriniaeth gosmetig, sy’n annhebygol o leddfu eu trallod
- Colli pwysau ac ymarfer corff gormod
Cymorth
Mae pobl gyda BDD yn aml yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd neu embaras. Fodd bynnag, os oes gennych BDD, nid oes dim byd i deimlo cywilydd neu deimlo embaras amdano. Mae’n gyflwr iechyd hirdymor, fel y mae llawer o gyflyrau corfforol, ac nid oes bai arnoch.
Mae chwilio am help yn bwysig oherwydd mae’n annhebygol y bydd eich symptomau yn gwella os nad ydych yn eu trin, ac efallai y byddant yn gwaethygu.
Dylech ymweld â’ch meddyg teulu os ydych yn meddwl efallai bod gennych BDD. I ddechrau, byddant fwy na thebyg yn gofyn nifer o gwestiynau am eich symptomau a sut mae’n effeithio arnoch, fel:
- Ydych yn poeni llawer am y ffordd rydych yn edrych ac ydych eisiau meddwl llai am hynny?
- Pa bryderon penodol sydd gennych am eich ymddangosiad?
- Ar ddiwrnod arferol, faint o oriau ydych yn meddwl am eich ymddangosiad?
- Pa effaith mae hyn yn cael ar eich bywyd?
- Ydy hyn yn ei gwneud hi’n anodd i chi wneud eich gwaith neu fod gyda ffrindiau?
- Os bydd eich meddyg teulu yn amau bod gennych BDD, gallant eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl ar gyfer asesiad pellach ac unrhyw driniaeth briodol.
Dolenni allanol
Ffynhonnell: nhs.uk