Anhwylder Bwyta

Rhybudd cynnwys: Mae’r blog hwn yn trafod anhwylder bwyta.

Ers i mi fod yn yr ysgol uwchradd dwi’n teimlo fy mod i wedi cael trafferth hefo fy mhwysau. Dwi wedi bod nôl a ‘mlaen ar ddiets gwahanol a ddim byd wirioneddol yn sticio. Mae colli pwysau wedi profi yn anodd iawn i mi gan fod gen i’r cyflwr PCOS (Polycystic Ovarian Syndrome).

Dwi ‘di cael dipyn o brofiadau bywyd reit heriol ers pan oni’n ifanc. Ond wedi gallu cario ymlaen, gweithio’n galed ac adeiladu bywyd da i fi fy hun, diolch am hynny. Mae gen i dŷ fy hun, teulu cefnogol, ffrindiau briliant, swydd dwi’n ei garu, a cymaint mwy. Ond dwi wedi troi at reoli fy mwyd er mwyn delio gyda theimladau anodd a gorbryder. A phan mae bywyd yn teimlo allan o reolaeth… un peth oni’n gallu ei reoli oedd bwyd, a sut oni’n edrych.

Ar ddechrau’r flwyddyn yma roedd pobl yn sylweddoli fod gen i broblem ac yn fy annog i fynd at y meddyg teulu. A dwi mor ddiolchgar iddyn nhw. Oni bai am hynny fuaswn i byth wedi derbyn y gefnogaeth gychwynol ‘na oni ei angen. Mewn cyfnod o tua 3 mis oni wedi colli lot fawr o bwysau. Ond i rywun oedd dros ei phwysau cynt roeddwn i’n ‘success story’. Pan ddywedodd y meddyg ei fod yn meddwl ‘mod i’n dioddef o anorecsia oni methu coelio’r peth am amser hir iawn. I rywun oedd wrth ei bodd yn bwyta, doedd o’n gwneud dim synnwyr. Oni mewn denial llwyr.

Ond ar ôl ystyried beth oedd gan y doctor i’w ddweud, roedd o’n gwneud synnwyr. Methu prydau bwyd. Cyfri calorïau. Pwyso bwyd. Cadw llygaid ar sut oni’n edrych. Pwyso fy hun bob dydd. Peidio bwyta dim byd oedd hefo braster. Peidio bwyta o flaen neb arall. Cuddio fy mwyd. Ofn beth mae eraill yn feddwl ohona i wrth fwyta. Mae’r rhestr yn mynd ‘mlaen.

Roedd y meddyg teulu wedi fy nghyfeirio at y Tîm Anhwylderau Bwyta fwy nag unwaith. Ond oherwydd mod i’n bwysau ‘iach’ a’r BMI yn iawn ar gyfer fy oedran, does gen i ddim cefnogaeth ganddynt hyd yma. Oni’n teimlo bod y cyflwr a’r boen oni ynddo yn cael ei ddiystyrru’n llwyr gan ‘mod i’n bwysau iach (a diolch am hynny).

Dechreuais weld Seicolegydd ym mis Chwefror. Ond doedd hynny ddim yn fuddiol ar y pryd. ‘You’re too big to be seen by the eating disorder specialists, they wouldn’t accept you’ ‘your BMI’s healthy’ ‘most girls have body issues’. Y lleisiau bach ‘na wedyn yn dweud wrtha i fod i ddim digon sâl i gael fy ngweld. Mae’n rhaid i mi golli mwy. Dwi’n rhy fawr. Dwi wedi gwrthod ail ymweld â’r un Seicolegydd am resymau amlwg. Ond o ganlyniad i hynny dydw i dal heb dderbyn cefnogaeth gan Seicolegydd newydd, er bod y sefyllfa heb newid ac mae hi rwan yn fis Awst.

Roedd pobl yn dweud wrthai pa mor wych oni’n edrych. Dweud wrthai am beidio rhoi’r pwysau yn ôl ‘mlaen rwan ein bod ni’n dod allan o’r clo. Bwriad pawb oedd i fod yn bositif a chlên tuag atai. Doedd dim byd maleisus o dan sylw, a dwi’n gwybod hynny. Ond does NEB yn gwybod beth sydd yn digwydd tu ôl i ddrysau clo. Ac er fod y bwriad yn un lyfli, roedd o’n cael effaith arnai. Yn cadarnhau ‘mod i’n edrych yn well yn deneuach a ‘mod i angen cario ‘mlaen hynny fedrwn i.

Dwi nawr yn parhau i orfod ymweld â’r meddyg teulu yn gyson ond yn derbyn sesiynau gyda dietegydd (sydd yn helpu’n ofnadwy) ac yn dal i ddisgwyl i’r tîm iechyd meddwl i benodi Seicolegydd newydd er mwyn fy nghefnogi.

Dwi mor lwcus o gael ffrindiau a theulu cefnogol o fy amgylch. Ond allan o’r profiad yma mae o wedi dod yn amlwg i fi mai dim ond chi sydd yn gallu cwffio eich congl a newid eich sefyllfa. Fel rhywun sydd yn dioddef ond dal yn bwysau ‘normal’ o ran fy oedran mae o’n anodd i gael eich cymryd o ddifrif. Mae’r meddyg wedi bod yn anhygoel. Wedi fy helpu ac yn cwffio i gael cefngaeth i mi. Ond ar ddiwedd y dydd the buck stops here. Fi sydd yn gorfod gwneud y gwaith caled. Fi sydd yn gorfod cwffio dros fy hawl i dderbyn cefnogaeth. Ond fi hefyd sydd yn gorfod gwthio yn erbyn fy nheimladau a dewis i beidio gwrando ar y llais ‘na sydd yn dweud wrthai am beidio bwyta. Sydd yn dweud wrthai ‘mod i’n iawn tan swpar a gwneud y newidiadau bach ‘ma sydd yn arwain at newidiadau mawr yn y pen draw. Mae’r lôn yn un hir, ond yn un werth bod arni er mwyn cael mwynhau bywyd unwaith eto.

Gwrandewch ar eich ffrindiau, siaradwch hefo nhw am beth bynnag sydd yn eich poeni. Mae’n cymryd y ffasiwn gryfder i gwffio a gwynebu dy broblemau. Peidiwch â dioddef ar ben eich hun. Rhannwch eich baich hefo rhywun sydd yn fodlon gwrando!