Gwrthiselyddion
Antidepressants
Defnyddir gwrthiselyddion (antidepressants) i drin iselder ac anhwylderau hwyliau (mood disorders) eraill.
Nid yw gwyddonwyr yn sicr sut mae gwrthiselyddion yn gweithio, ond credir eu bod yn codi lefelau rhai cemegau yn eich ymennydd sy’n helpu gwella eich hwyliau a’ch emosiynau.
Mae mathau gwahanol o wrthiselyddion i gael, ac mae’n bosib y bydd angen i chi drio sawl un gwahanol cyn dod o hyd i un sy’n gweithio i chi.
Selective serotonin re-uptake inhibitors (SSRIs)
SSRI yw’r fath o wrthiselyddion a ragnodir amlaf yn y DU. Awgrymir bod sgil effeithiau SSRI yn haws ymdopi â nhw na gwrthiselyddion eraill. Mae SSRI yn cynnwys:
- Citalopram (Cipramil)
- Escitalopram (Cipralex)
- Fluoxetine (Prozac)
- Fluvoxamine (Faverin)
- Paroxetine (Seroxat)
- Sertraline (Lustral)
Serotonin-noradrenaline reuptake inhibitors (SNRIs)
Mae SNRI yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i SSRI. Weithiau fe’u defnyddir i drin mathau mwy difrifol o iselder a gorbryder. Mae SNRI yn cynnwys:
- Duloxetine (Cymbalta, Yentreve, Dutor, Depalta)
- Venlafaxine (Efexor, Venlalic, Sunveniz, Venladex, ViePax)
Gwrthiselyddion tricyclic (TCAs)
Mae’r rhain yn fathau hŷn o feddyginiaeth ac yn gyffredinol yn achosi mwy o sgil effeithiau na gwrthiselyddion eraill. Dyma restr o TCAs:
- Amitriptyline
- Clomipramine
- Dosulepin neu Dothiepin (Prothiaden nei Dothapax)
- Doxepine (Xepin)
- Imipramine
- Lofepramine
- Nortriptyline
- Trimipramine
Mono-amine oxidase inhibitors (MAOIs)
Mae MAOIs hefyd yn wrthiselyddion hŷn, ac nid ydynt yn cael eu rhagnodi gymaint. Dylai eich meddyg roi rhagor o wybodaeth i chi a’ch monitro wrth eu rhagnodi.
- Socarboxazid
- Phenelzine (Nardil)
- Tranylcypromine
- Moclobemide (Manerix)
Gwrthiselyddion eraill
Mae nifer o wrthiselyddion eraill nad ydynt yn ffitio i’r categorïau uchod sy’n cynnwys:
- Mirtazapine (Zispin)
- Trazodone (Molipaxin)
- Reboxetine (Edronax)
- Mianserin
Mae gan Mind a YoungMinds wybodaeth am y meddyginiaethau unigol.
Dolenni allanol
- About antidepressants : Mind (Saesneg)
- Antidepressants : Rethink (Saesneg)
- Medications : Young Minds (Saesneg)