Cerddi yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Gan gyrraedd y cyfnod yma, Yr arholiadau yn agosáu, Dim ots y canlyniadau, Mae bywyd dal i barhau.
Mae’n iawn dweud “na” am ‘leni, a nofio’n groes i’r lli. Wrth fod yn glên â thi dy hun, gwna’r hyn sy’n ‘iawn’ i ti.
Blwyddyn yn ôl roedd bywyd yn parhau, tra o’n i dal i grio. Neb wir yn sylwi, faint o’n i’n trio.
Hyd yn oed pan fyddi di’n teimlo’n fach, cofia – ti o bwys, mewn stori sy’n dal i ddigwydd.
Os daw heddiw â gwynt ac eirlaw, dal dy galon dan dy ddwylaw. Waeth ti befo am y tywydd, Mae yfory’n ddiwrnod newydd.
Pan ddaw bore llawn amheuon, I dy fygwth o’r cysgodion, Paid â choelio dy feddyliau, Maen nhw’n pasio, fel cymylau.
Cerdd gan Llinos Dafydd ar ddiwrnod ymwybyddiaeth PTSD
Rownd rhyw gornel na welaf, cyn hir, bydd o yno’r cnaf, yr hen gi dig, ffyrnig, du, a’r hen wg, yn sgyrnygu.
Mae colledion sy’n aildrefnu’n byd. Marwolaethau sy’n newid y ffordd y gwelwn bopeth. Galar sy’n rhwygo popeth cyfarwydd i lawr. Poen sy’n ein cludo i fydysawd hollol wahanol. A hyn, wrth fod byd pawb arall wedi newid dim mewn gwirionedd.
Dwi ond yn gofyn I fod yn iawn. Am ddiwrnod heb boeni, A lle di’r ymennydd ddim yn llawn.
Gydag amser, amynedd ac ymwybyddiaeth Daw Maddeuant – i raddau Dealltwriaeth – bron iawn Derbyn – hyd braich.
Dim digon o “likes” Dim digon o sylwadau, Pryd ‘di’r amser i agor ein llygadau?