Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)

Dialectical Behaviour Therapy

Mae Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT) yn fath o therapi siarad sy’n ceisio eich helpu i ymdopi ag emosiynau anodd.

Y nod yw eich helpu i ddysgu sut i dderbyn a rheoli’r emosiynau hyn, fel eich bod yn medru newid unrhyw ymddygiad a allai fod yn niweidiol.

Crëwyd y therapi yn wreiddiol er mwyn cynorthwyo’r rhai sydd ag Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, ond bellach caiff DBT ei ddefnyddio i drin nifer o broblemau iechyd meddwl yn cynnwys iselder a hunan-niweidio.

Fel CBT, mae DBT hefyd yn canolbwyntio ar eich helpu i newid ymddygiadau a ffyrdd o feddwl di-fudd. Fodd bynnag, mae DBT hefyd yn canolbwyntio ar derbyn pwy ydych chi, ac yn dueddol o gynnwys mwy o waith grŵp na CBT.

Er mwyn i DBT fod yn effeithiol, disgwylir eich bod yn:

  • Barod i ymrwymo i wneud newidiadau cadarnhaol
  • Barod i weithio’n galed yn y sesiynau therapi ac i wneud asesiadau gwaith cartref
  • Barod i ganolbwyntio yn bennaf ar eich presennol a’ch dyfodol yn hytrach na’ch gorffennol
  • Teimlo eich bod yn gallu ymuno â sesiynau grŵp gyda phobl eraill

(Ffynonellau: Counselling Directory, Mind, Rethink)