Therapïau Creadigol

Creative Therapies

Mae therapïau creadigol, neu therapïau’r celfyddydau, yn defnyddio celfyddydau creadigol mewn awyrgylch therapiwtig gyda therapyddion cymwysedig.

Y bwriad yw eich annog i dynnu ar eich adnoddau creadigol mewnol a mynegi eich teimladau heb fod angen defnyddio geiriau. Nid oes rhaid eich bod wedi gwneud y gweithgareddau hyn o’r blaen, na chwaith bod gennych sgil neu wybodaeth benodol.

Beth yw nod therapïau creadigol?

  • Rhoi gofod ac amser diogel i chi gyda rhywun na fydd yn eich beirniadu;
  • Eich helpu i wneud synnwyr o bethau ac i ddeall eich hun yn well;
  • Eich helpu i ddatrys teimladau cymhleth, neu chanfod ffyrdd i fyw gyda nhw;
  • Eich helpu i gyfathrebu ac i fynegi eich hun, sydd efallai’n cynnwys teimladau neu brofiadau sy’n anodd i chi eu cyfleu mewn geiriau.

Pa fathau o therapïau creadigol sydd ar gael?