Cyflyrau

Agoraffobia

Agoraphobia

Ofn bod mewn sefyllfa na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho.

Anhwylder Affeithiol Tymhorol

Seasonal Affective Disorder (SAD)

Math o iselder sydd yn effeithio ar unigolyn yn ystod tymor neu dymhorau penodol.

Anhwylder Dadbersonoli a Dadwireddu

Depersonalisation and Derealisation Disorder

Teimlo eich bod yn gwylio eich hun o du allan i’ch corff neu yn teimlo nad yw pethau o’ch cwmpas yn real.

Anhwylder Deubegynol

Bipolar Disorder

Salwch a gysylltir â newidiadau eithafol mewn hwyliau.

Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif

Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD)

Cyflwr sy’n medru achosi nifer o symptomau emosiynol a chorfforol cyn neu yn ystod eich mislif.

Anhwylder Dysmorffia’r Corff

Body Dysmorphic Disorder (BDD)

Anhwylder gorbryder sy’n achosi person i gamfarnu sut maen nhw’n edrych.

Anhwylder Dysthymic

Dysthymic Disorder

Math ysgafnach, ond eto mwy parhaol, o iselder.

Anhwylder Gorfodaeth-Obsesiynol

Obsessive Compulsive Disorder (OCD)

Math o anhwylder gorbryder sy’n achosi meddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol.

Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol

Dissociative Identity Disorder (DID)

Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.

Anhwylder Sgitsoaffeithiol

Schizoaffective disorder

Symptomau seicotig a symptomau sy’n ymwneud â hwyliau yn bresennol gyda’i gilydd yn ystod un episod.

Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)

Post Traumatic Stress Disorder

Casgliad o symptomau y gellir eu datblygu yn dilyn digwyddiad trawmatig.

Anhwylderau Bwyta

Eating Disorders

Pan fydd unigolyn yn datblygu agwedd nad yw’n iach tuag at fwyd.