Seicoaddysg
Psychoeducation
Nod seicoaddysg yw eich helpu i ddeall, ac i ddysgu byw gyda, chyflyrau iechyd meddwl.
Mae seicoaddysg yn cynnwys deall a dysgu am iechyd meddwl a lles. Mae’n debyg i addysg gorfforol, lle ‘rydych chi’n dysgu sut mae eich corff yn gweithio a sut i edrych ar ei ôl – ond gyda’ch meddwl.
Mae dysgu am iechyd meddwl ac am ffyrdd i’w wella yn gam rhagweithiol tuag at ddeall eich hun ac edrych ar ôl eich hun yn well.
(Ffynhonnell: Anna Freud a Good Therapy)