Gwrthseicotigau
Antipsychotics
Defnyddir gwrthseicotigau (antipsychotics) i drin anhwylderau iechyd meddwl sy’n cynnwys symptomau o seicosis, er enghraifft:
- Sgitsoffrenia
- Anhwylder Sgitsoaffeithiol
- Rhai mathau o Anhwylder Deubegwn
- Iselder dwys
- Y symptomau seicotig o anhwylderau personoliaeth
Mae gwrthseicotigau yn effeithio ar bawb yn wahanol, a gall gymryd amser i ddod o hyd i’r feddyginiaeth orau i chi.
Efallai na fydd gwrthseicotigau yn cael gwared ar symptomau seicotig yn gyfan gwbl, ond gallant helpu i leihau a rheoli nifer o’r symptomau.
Mae dau gategori gwahanol o wrthseicotigau: ‘Cenhedlaeth gyntaf’, a ddefnyddiwyd ers yr 1950au, ac ‘Ail genhedlaeth’, a ddefnyddiwyd ers yr 1990au.
Gwrthseicotigau cenhedlaeth gyntaf
- Benperidol (Anquil)
- Chlorpromazine (Largactil)
- Flupentixol (Depixol)
- Fluphenazine (Modecate)
- Haloperidol (Haldol)
- Levomepromazine (Nozinan)
- Pericyazine
- Perphenazine (Fentazin)
- Pimozide (Orap)
- Promazine
- Sulpiride (Dolmatil, Sulpor)
- Trifluoperazine (Stelazine)
- Zuclopenthixol (Clopixol)
Gwrthseicotigau ail genhedlaeth
- Amisulpride (Solian)
- Aripiprazole (Abilify, Abilify Maintena)
- Clozapine (Clozaril, Denzapine, Zaponex)
- Risperidone (Risperdal & Risperdal Consta)
- Olanzapine (Zyprexa)
- Quetiapine (Seroquel)
- Paliperidone (Invega, Xeplion)
Mae gan Mind a YoungMinds wybodaeth am y meddyginiaethau unigol.
Dolenni allanol
- Antipsychotics : Mind (Saesneg)
- Antipsychotics: Rethink (Saesneg)
- Medications : Young Minds (Saesneg)