Y Menopos ac Iechyd Meddwl

Sut all y menopos effeithio ar iechyd meddwl?

Mae’r menopos yn rhan o heneiddio i lawer o bobl. Mae’n rhan naturiol o fywyd – ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn syml bob amser. Gall y menopos effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Rydym ni’n fwy tebygol o’i weld yn effeithio ar ein hiechyd meddwl os ydym wedi profi problemau iechyd meddwl pan oeddem ni’n iau.

Nid dim ond yr un sy’n mynd drwy’r menopos sy’n cael ei effeithio

Nid dim ond pwy bynnag sy’n profi’r menpos all gael ei effeithio ganddo. Gall hefyd effeithio ar ein teulu, ffrindiau, ac eraill sy’n byw gyda ni.

Mae hi’n bwysig ein bod ni’n ceisio siarad â’r rhai sy’n agos atom am yr hyn rydyn ni’n mynd drwyddo. Gall y menopos achosi newidiadau mawr yn ein bywydau, ac mae siarad amdano gyda’n hanwyliaid yn gallu ein helpu i wneud rhywfaint o synnwyr ohono. Gall hefyd eu galluogi nhw i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd i ni ar hyn o bryd.

Mae ein hormonau yn newid

Pan fyddwn ni’n mynd drwy’r menopos, yr hyn sy’n digwydd yw ein bod yn profi dirywiad yn yr hormonau progesteron ac estrogen yn ein cyrff. Gall hyn arwain at deimlo mwy o bryder, dioddef hwyliau ansefydlog, anniddigrwydd a pherygl o deimlo’n isel. Mae’r perygl o iselder yn cynyddu ymhellach os ydym wedi profi iselder neu iselder ôl-enedigol o’r blaen.

Cwsg aflonydd

Gall chwysu yn y nos gynyddu’r nifer o weithiau y byddwn ni’n deffro ar ôl mynd i gysgu, a gall hyn ein hatal rhag teimlo ein bod wedi gorffwys pan fyddwn ni’n codi yn y bore. Gall y cynnydd posibl mewn hwyliau isel a phryder yn ystod menopos hefyd effeithio ar ein cwsg.

Gall cwsg o ansawdd gwael effeithio ar ein hwyliau. Gall beri i ni deimlo’n isel a dagreuol. Efallai y byddwn ni’n teimlo’n fwy crintachlyd nag arfer ac yn arthio ar y rhai rydyn ni’n byw gyda nhw. Gall deimlo’n llawer mwy anodd i ymdopi â phethau pan fyddwn ni wedi blino yn hytrach na phan fyddwn ni wedi gorffwys yn dda.

Gall y risg o iselder a gorbryder gynyddu

Gall dyfodiad y menopos gynyddu’r risg o ddatblygu gorbryder a hwyliau isel. Wrth i ni fynd drwy’r menopos, a’n corff yn gweithio i addasu i’r lefelau is o brogesteron ac estrogen, gall ein hwyliau ddioddef, gallwn deimlo’n anniddig ac o dan straen, ac mae’n bosib y byddwn ni’n teimlo’n fwy pryderus. Gall y diffyg cwsg, libido gwan, cur pen a symptomau eraill y gallem eu profi hefyd effeithio ar ein hwyliau a’n lefelau pryder yn ogystal. Mae’r cyfnod y mae nifer o bobl yn mynd drwy’r menopos yn aml yn gallu cyd-ddigwydd â newidiadau sylweddol eraill yn eu bywyd hefyd. Efallai bod y plant yn tyfu ac yn gadael y nyth; efallai y bydd angen i ni leihau maint ein tŷ; gallem fod yn gofalu am berthnasau oedrannus neu’n mynd drwy brofedigaeth. Gall yr holl bethau hyn effeithio ar sut rydym yn teimlo.

Therapi Amnewid Hormon (HRT)

Mae Therapi Amnewid Hormon yn feddyginiaeth y gellir ei rhagnodi i helpu gyda symptomau menopos gan gynnwys pyliau poeth a chwysu yn y nos. Gall helpu i reoli lefelau hormonau ac mae astudiaethau wedi dangos y gallai hyn helpu lleihau’r risg o hwyliau isel. Fodd bynnag, nid yw heb ei sgil-effeithiau ac nid yw’n addas i bawb, fel pobl sydd wedi cael rhai mathau o ganser y fron neu sydd mewn perygl o hynny.

Ymdopi â symptomau

Gall y menopos godi llawer o feddyliau ac emosiynau cythryblus. Gall siarad amdanynt helpu, yn enwedig os ydyn ni mewn perthynas, ac yn darganfod bod y symptomau rydyn ni’n eu profi’n creu tyndra rhyngom. Os nad yw siarad yn rhywbeth rydym yn gyfforddus ag ef, gallem hefyd geisio ysgrifennu, darlunio, neu fynegi ein meddyliau a’n teimladau trwy gerddoriaeth. Os yw’n bosib gwneud, gall ymarfer corff ysgafn ein helpu ni gyda rhai symptomau menopos, gan gynnwys hwyliau isel.

Os ydym yn datblygu problemau cof a chanolbwyntio yna gallem geisio cofnodi pethau  a cheisio cynllunio ein diwrnod er mwyn cael seibiannau rheolaidd sy’n golygu mai dim ond am gyfnodau byr y mae’n rhaid i ni ganolbwyntio.

O ran hwyliau a phryder isel mae yna lawer o wahanol opsiynau am driniaeth. Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn cael ei gynnig yn aml, ond os nad yw hyn yn gweithio, mae yna opsiynau eraill – mae angen i ni siarad â’n meddyg teulu am yr hyn sydd ar gael yn ein hardal.

Ac oherwydd yr holl symptomau, gall rhoi blaenoriaeth i’n hunanofal helpu hefyd.

Os oes unrhyw un o’n symptomau’n cael effaith sylweddol ar ein bywyd, neu os ydym ni’n poeni am unrhyw beth o gwbl  – p’un ai ni yw’r un sy’n mynd drwy’r menopos neu ein bod ni’n agos at rywun sy’n mynd drwyddo, gallai fod yn ddefnyddiol siarad â’n meddyg teulu neu wasanaeth cymorth arall am ein pryderon.

[Ffynhonnell: blurtitout.org]