Triniaethau

Mae nifer o driniaethau effeithiol ar gael, ond nid oes un driniaeth sy’n iawn i bawb. Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol i ddod o hyd i driniaeth sy’n gweithio i chi.

Ailbrosesu a Dadsynhwyro drwy Symudiadau’r Llygaid (EMDR)

Techneg seicotherapi sy’n defnyddio mewnbwn synhwyraidd megis symudiadau’r llygaid i helpu pobl i wella ar ôl trawma.

Cwnsela

Math o therapi yw cwnsela sy’n eich annog chi i siarad am eich problemau a’ch teimladau yn gyfrinachol.

Cwnsela i gyplau

Math o therapi sy’n ceisio gwella cyfathrebu a datrys problemau o fewn perthynas agos.

Meddyginiaeth

Mae cael cynnig meddyginiaeth neu beidio yn dibynnu ar eich diagnosis, eich symptomau a pha mor ddifrifol yw effaith y cyflwr arnoch chi.

Seicoaddysg

Nod seicoaddysg yw eich helpu i ddeall ac i ddysgu byw gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Therapi Celf

Ffordd unigryw i archwilio meddyliau ac emosiynau.

Therapi Cerddoriaeth

Math o therapi creadigol sy’n cynnwys gwrando a/neu chwarae cerddoriaeth.

Therapi Dawns a Symud

Math o therapi sy’n cynnwys defnyddio symudiadau’r corff a dawns.

Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT)

Math o therapi sy’n defnyddio strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar i’n helpu i dderbyn yr anawsterau ‘rydym yn eu hwynebu.

Therapi Drama

Math o therapi sy’n eich galluogi i archwilio emosiynau ar ffurf drama.

Therapi Electrogynhyrfol (ECT)

Triniaeth sy’n cynnwys anfon cerrynt trydan trwy’ch ymennydd

Therapi Grŵp

Math o therapi seicolegol sy’n digwydd gyda grŵp o bobl gyda’i gilydd.