Gorbryder Iechyd

Health Anxiety

Rydym i gyd yn poeni am ein hiechyd o bryd i’w gilydd, er enghraifft, os oedd rhaid inni fynd i’r ysbyty i gael llawdriniaeth, neu os ydym yn cael ein hadalw gan ein meddyg ar ôl profion.

Mae pryderon ynghylch iechyd yn mynd yn broblem pan ydynt yn dechrau rhwystro bywyd normal hyd yn oed pan nad oes rheswm i feddwl bod rhywbeth difrifol o’i le.

Symptomau

  • Gorbryder
  • Poeni’n gyson ynghylch iechyd
  • Dychmygu pethau annifyr yn y dyfodol, fel cael diagnosis o salwch difrifol, ac effaith hyn ar eich anwyliaid
  • Meddwl am afiechydon a symptomau
  • Meddwl eich bod yn temtio ffawd os nad ydych yn poeni
  • Poeni y gallai’r meddyg fod wedi methu rhywbeth
  • Credu y gallech fethu arwyddion salwch difrifol oni bai eich bod yn cadw llygad ar bethau
  • Dymuno ymweld â’r meddyg ond ofni eich bod yn gwastraffu eu hamser neu nad ydynt yn eich cymryd o ddifrif
  • Ceisio cysur neu sicrwydd gan bobl eraill bod popeth yn iawn
  • Gwirio’ch corff am symptomau
  • Mynd i feddygfa’r meddyg yn aml
  • Canolbwyntio ar un darn o’r corff am deimladau newidiol
  • Osgoi unrhyw wybodaeth ar afiechydon difrifol e.e. diffodd y teledu os yw rhaglen ysbyty yn cael ei dangos
  • Ceisio unrhyw wybodaeth ar afiechydon difrifol, a gwirio am y symptomau hynny (llyfrau, Rhyngrwyd, teledu)
  • Ymddwyn fel eich bod yn sâl, er enghraifft, osgoi ymdrech neu ymarfer, cadw’n agos i’ch cartref, gorffwys

Mae pobl â gorbryder iechyd yn cael bod eu bywyd dyddiol normal yn cael ei effeithio gan eu pryderon ynghylch iechyd. Yn aml mae hyn yn parhau er gwaethaf profion a sicrwydd nad yw unrhyw gyflwr meddygol yn cyfiawnhau’r pryder hwn.