Cyngor iechyd meddwl : Heno S4C

Andrew Tamplin sy’n cynnig ambell gyngor i’ch helpu chi i edrych ar ôl eich iechyd meddwl.

“Byddwch yn garedig i chi’ch hunan. Gwerthfawrogwch eich hunan a’r pethe da chi’n neud”

(cliciwch ar y llun i fynd at y fideo)


Rhannu

Andrew Tamplin : Prynhawn Da

Dyma stori bersonol Andrew Tamplin sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol ond erbyn hyn yn cynghori eraill ar faterion iechyd meddwl.

(cliciwch ar y llun i fynd at y fideo)


Rhannu

Trafodaeth ‘Hel Meddyliau’ yn yr Eisteddfod

Cynhaliwyd trafodaeth ar effaith llenyddiaeth ar iechyd meddwl yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod eleni gyda: 

  • Alaw Griffiths – golygydd ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Angharad Gwyn – a gyfrannodd ddarn am ei phrofiad o anorecsia i ‘Gyrru Drwy Storom’
  • Wynford Ellis Owen – sefydlydd Stafell Fyw Caerdydd – canolfan gymunedol sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau
  • Sara Gibson – newyddiadurwr a brofodd gyfnod anodd ar ôl geni ei thrydydd plentyn, ac roedd darllen straeon newyddion neu nofelau yn anodd iddi.

Diolch i’r cyfrannwyr am drafodaeth werthfawr. Mae fideo o’r drafodaeth, a gynhyrchwyd gan Cwmni Da, i’w weld isod.


Rhannu

Pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg : Taro’r Post

Dyma Sophie Ann yn sôn am ganfyddiadau ei gwaith ymchwil ar bwysigrwydd y Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ar Taro’r Post (3/9/18).

Cliciwch ar y ddelwedd isod i fynd at y raglen (16:35 i mewn).


Rhannu

Ysgrifennu yn lleddfu rhywfaint ar boen ddiddiwedd mam : BBC Cymru Fyw

Ysgrifennu yw’r unig beth sy’n lleddfu rhywfaint ar y boen ddiddiwedd i Sharon Jones wedi iddi golli Ned, ei mab pum mlwydd oed

Mae Sharon Jones wedi siarad am ei “galar annioddefol” o golli ei mab pump oed, a fu farw mewn damwain car ddwy flynedd yn ôl. Ers colli ei mab, mae Sharon wedi troi ei llaw at ysgrifennu llyfrau.


Rhannu

Nigel Owens ac iechyd meddwl

Nigel Owens yn rhannu ei brofiadau o iselder a bwlimia ar Radio Cymru yn ddiweddar.

Parhau i ddarllen

Rhannu