Meddwlgarwch a yoga i blant

Sesiwn yoga a meddwlgarch i blant a’u teuluoedd gyda Emma o Llifo’n Llawen. Bydd y fideo hwn o gymorth i blant er mwyn ymlacio yn y bore cyn mynd i’r ysgol, neu ar unrhyw adeg. Dewch â’ch hoff dedi neu ddoli a mwynhewch!

Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.