Myfyrdod gyda Siôn Jones

Dau fyfyrdod i leihau gorbryder a straen, a chyngor arbennig gan Sion Jones am sut i dawelu’r meddwl a chadw meddwl iach.

Dyma oedd y trydydd sesiwn yn ein cyfres #MawrthMeddwl sy’n ddigwyddiadau ymlaciol bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook. Arweinir pob sesiwn gan athrawon a hyfforddwyr profiadol, ac mae’r gyfres yn cynnig cyfle i chi gael blas ar ffyrdd gwahanol o ymlacio’r corff a’r meddwl.