Math o therapi yw cwnsela sy’n eich annog chi i siarad am eich problemau a’ch teimladau yn gyfrinachol.
Mi fydd PTSD arna i am byth ac rwyf wedi derbyn hynny bellach.
Yn amlwg oedd pethau da yn digwydd ac o ni’n teimlo’n hapus, ond byddai’r iselder a phryder wastad yn darganfod ffordd i gropian yn ôl mewn.
Hogyn 22 oed, dros bwysau, ac yn ddi-siap, ddim yn hapus gyda’n hun o gwbl ac hefyd yn trio cuddio rhywioldeb.
Siarad a rhannu sydd wedi, ac sydd dal yn tynnu fy mhen i allan o’r cymylau bach tywyll ‘na sy’n ymddangos o dro i dro felly dwi WIR isho trio helpu normaleiddio’r drafodaeth.
Ma’ anxiety, depression, panic attacks ag ati ddim yn beth neis i fyw gyda, ond dyw e ddim yn diffinio ti fel person.
Mae’n dal i fod yn destun tabŵ i lawer, yn enwedig ymysg dynion. Rhywsut, rydyn ni’n ei chael hi’n anoddach rhyddhau ein teimladau ac yn tueddu i feddwl bod rhaid i ni ymddangos yn “macho” drwy’r amser.
Dros gyfnod o chwe mis, trodd y ‘deiet’ yn obsesiwn.
Tua hanner nos, dechreuais grynu. Doeddwn i methu cael fy ngwynt. Doeddwn i ddim yn gwybod be oedd yn digwydd i fi ond yr unig beth allwn i feddwl oedd fy mod i’n marw.
Dwi’n byw mewn bybyl. Dwi’n edrych allan o’r bybyl ar fywyd pobl o nghwmpas ond dwi ddim yn rhan o ddim byd nac yn perthyn i neb. Dwi’n bodoli, dyna’i gyd.
“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”
Dyma’r pwynt y dywedwyd wrthym fy mod i’n cael camesgoriad.
Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig.