PTSD a fi

Rhybudd cynnwys: trais

Dwi wedi bod yn dioddef ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD, am wyth mlynedd bellach.

Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig. Fy mwriad drwy rannu fy stori felly yw herio’r syniad sydd gan bobl am y cyflwr, ac yn bennaf, cynnig gobaith i ddioddefwyr eraill.

Wrth i mi baratoi’r darn hwn, un o’r pethau y bu’n rhaid i mi ystyried oedd p’un ai i rannu’r digwyddiad trawmatig a achosodd fy salwch neu beidio. A fyddai hyn ond yn achosi mwy o straen i mi wrth ei ysgrifennu? A fyddai’r stori’n rhy anodd i bobl ei ddarllen? A oedd manylion y digwyddiad ei hun hyd yn oed yn bwysig i’w cynnwys wrth i mi drafod y cyflwr?

Mae’r hyn a ddigwyddodd i mi’n eithafol, ond yn anffodus nid yw’n anghyffredin. Penderfynais felly y byddai’n rhaid i mi rannu’r digwyddiad er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r salwch i chi. Dyma oedd sbardun fy salwch, wedi’r cyfan.

Pan oeddwn i yn fy arddegau, cefais fy nhreisio gan fachgen hŷn yr oeddwn yn ei adnabod o’r ysgol.

Ar ôl i mi dderbyn lifft adre ganddo yn dilyn parti, penderfynodd yrru dros y mynydd, stopio’r car mewn cilfan tawel, fy ngorfodi i’r sedd gefn a fy nhreisio. Dwi wedi treulio cymaint o amser ers hynny yn rhoi’r bai ar fy hun. Fi wnaeth dderbyn y lifft ganddo. Fi oedd wedi cadw’n ddistaw pan yrrodd heibio fy nhŷ ac i ochr arall y mynydd lle nad oedd unrhyw olau stryd nac unrhyw un arall yn agos. Fi aeth i gefn y car, heb brotest, pan orchmynnodd hynny. Ar ben hynny, ni ddywedais wrth unrhyw un am yr hyn a ddigwyddodd, am sawl rheswm, ac felly treuliais weddill y flwyddyn ysgol yn osgoi’r bachgen hwn, mewn cyflwr parhaus o gywilydd ac ofn.

Does dim rhyfedd felly fy mod wedi profi fy mhwl cyntaf o banig yn yr ysgol, blwyddyn ar ôl y digwyddiad.

Roedd y bachgen wedi gadael erbyn hyn, wedi symud ymlaen i’r brifysgol, a minnau o hyd yn ofn mynd i’r ysgol a’i weld yn y coridorau. Dechreuodd y pyliau o banig ddigwydd yn fwy aml, ac nid yn unig yn yr ysgol. Mewn siopau. Ar y bws i’r ysgol. Ar drenau. Yn y car. Mewn bwytai. Yn ystod partïon. Mewn awyrennau. Hyd yn oed yn gorwedd yn y gwely. Roedd fy myd yn cyfyngu’n ara’ deg wrth i mi ddechrau ofni unrhyw sefyllfa lle’r oeddwn yn teimlo’n gaeth. Cefais ddiagnosis o or-bryder gan y meddyg pan oeddwn yn 16 oed, a phennwyd straen arholiadau fel yr achos. Dechreuais deimlo’n isel, hyd yn oed yn cael meddyliau am hunanladdiad. Roedd hynny’n gyfnod tywyll iawn.

Ni ddaeth y symptomau PTSD i’r amlwg tan i mi ddechrau yn y brifysgol, rhyw bedair mlynedd ar ôl y trais.

Roeddwn i mewn perthynas newydd, ac yn mwynhau’r holl bethau sydd ynghlwm â hynny. Ond pan ddaeth i’r pwynt lle’r oeddem ni am ddechrau cael rhyw, roeddwn yn profi rhywbeth hyd yn oed yn fwy erchyll na’r pyliau o banig. Dwi bellach yn gallu eu hadnabod fel ôl-fflachiadau, neu flashbacks, ond doeddwn ni ddim yn gwybod hynny ar y pryd. Bob tro roedd fy nghariad yn mynd yn agos ata i yn gorfforol, roeddwn i wir yn teimlo fel fy mod i nôl yn y car hwnnw, gyda’r bachgen oedd wedi ymosod arna i. Dyma’r peth mwyaf brawychus dwi erioed wedi profi, hynny yw, y dryswch roedd yn fy mhen rhwng realiti’r presennol ac atgofion y trais. Dechreuais brofi hunllefau erchyll a sleep paralysis yn ystod y nos hefyd, sef pan fo’r meddwl yn ymwybodol ac ar ddihun a’r corff o hyd mewn cyflwr o gwsg. Wrth gwrs, rhoddodd hyn straen enfawr ar ein perthynas a bu’n rhaid i mi ddweud y gwir wrtho cyn i’r perthynas chwalu. Dwi’n ffodus iawn ei fod wedi deall yn llwyr ac yn ofalus iawn ohona i wedi hynny. Nid pob dyn fyddai’r un mor ddeallus.

Ar ôl hyn i gyd, cefais ddiagnosis o PTSD gan y meddyg. Dechreuodd fy symptomau wella ychydig drwy gyfuniad o feddyginiaeth gwrth-iselder a chwnsela, a dwy flynedd (hir) yn ddiweddarach roeddwn i’n gallu cael perthynas a bywyd rhywiol iach a normal. Roeddwn i o hyd yn cael pyliau o banig mewn sefyllfaoedd lle y byddai’n anodd dianc, fel darlithoedd, ac wedi dechrau profi dadwireddiad (nawr dwi’n deall mai dyma ffordd fy meddwl o amddiffyn ei hun pan mae’n teimlo o dan fygythiad), ond roeddwn i’n gallu ymdopi ar y cyfan.

Dwi’n meddwl mai’r pwynt y dechreuodd pethau wella o ddifrif oedd pan wnes i sylweddoli nad oeddwn i ar fai am gael fy nhreisio.

Nid oedd unrhyw beth y gallwn i wedi’i wneud yn wahanol y noson honno i’w osgoi. Nid oeddwn wedi gwneud unrhyw beth ond am anadlu, bodoli, digwydd bod yn yr un man â’r bachgen hwn oedd mor benderfynol o’i hawl i fy nghyffwrdd. Yn dilyn y sylweddoliad hwn, dechreuodd y cywilydd ddiflannu, y cywilydd roeddwn i’n teimlo am fod rhywun wedi cymryd gymaint oddi wrtha i, bod rhywun wedi gweld a defnyddio fy nghorff yn y ffordd hwnnw, ac yn bennaf, y reddf naturiol o deimlo’n euog am adael iddo ddigwydd.

Dwi o hyd yn dioddef gyda PTSD. A dweud y gwir, dwi’n mynd trwy gyfnod anodd ar hyn o bryd ar ôl i fy mherthynas ddod i ben rhai misoedd yn ôl. Roedd y straen o hynny ac amgylchiadau eraill yn fy mywyd yn ormod i fy meddwl a fy nghorff a chefais pwl enfawr o banig yng nghanol y ddinas, sydd wedi dinistrio fy hyder yn llwyr. Dwi o hyd yn gweld cwnselydd ac mae hyn yn helpu, ond mae’r meddyg wedi cynnig math newydd o therapi trawma (EMDR) dwi’n gobeithio ei ddechrau yn fuan.

Wrth i mi dynnu tua’r terfyn felly, hoffwn gynnig neges o obaith i unrhyw un arall a all fod yn dioddef. Ydy, mae’r salwch yn greulon. Ydy, mae wedi effeithio ar bob agwedd o fy mywyd. Fy nheulu, fy mherthynas, ffrindiau, bywyd prifysgol, gwaith, bywyd cymdeithasol. Mae wedi achosi i mi newid fy ffordd o fyw a’r ffordd dwi’n ymddwyn. Yn anffodus, dyna beth mae ymosodiad rhywiol yn ei wneud. Mae’n gwneud i chi gwestiynu eich cymeriad ac yn gwneud i chi deimlo’n bell, mor bell, o’r person hwnnw yr ydych chi yn y bôn. Er hynny, dwi wedi llwyddo mewn gymaint o ffyrdd eraill. Fe wnes i barhau i fynd i’r ysgol a chwblhau fy Lefel A er i mi fod yn ofn bob dydd. Dwi wedi gwneud fy ngradd, er i mi amau fy ngallu i wneud hynny sawl gwaith dros y pedair mlynedd. Dwi wedi cael swydd dwi wir yn ei mwynhau yn syth ar ôl graddio. Am bum mlynedd, llwyddais i fod mewn perthynas cariadus a hapus ac er iddo ddod i ben nawr, dwi’n gwybod y bydda i’n gallu gwneud hyn eto.

Os ydych yn dioddef o PTSD, credwch chi fi, nid dyma yw diwedd eich bywyd. Nid yw’n eich diffinio. Nid yw’n gwneud unrhyw beth ond dangos eich bod wedi goroesi rhywbeth erchyll. Rydych chi’n haeddu gwybod eich bod yn gryf, yn werthfawr ac yn haeddu hapusrwydd a phob llwyddiant yn eich bywyd. Byddwch yn cyflawni pethau sy’n ymddangos yn amhosibl i chi. Byddwch yn gwireddu eich breuddwydion. Byddwch yn caru, yn chwerthin, yn crio. Nid yw hyn wedi dinistrio fy mywyd, ac ni fydd yn dinistrio eich bywyd chi chwaith.

Adnoddau sydd wedi bod o gymorth i mi:

Di-enw