Dim cywilydd, dim cyfrinachau. Cyfathrebwch.

Mae’n braf iawn gweld cymaint o sôn am iechyd meddwl o’n cwmpas ni erbyn hyn, ar y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf. Mae llawer mwy o bobl yn ymwybodol o broblemau iechyd meddwl yn gyffredinol ac mae llawer mwy o bobl yn magu dewrder i siarad am eu profiadau. Dyw hynny ddim yn beth hawdd i’w wneud.

Ond mae’n dal i fod yn destun tabŵ i lawer, yn enwedig ymysg dynion. Rhywsut, rydyn ni’n ei chael hi’n anoddach rhyddhau ein teimladau ac yn tueddu i feddwl bod rhaid i ni ymddangos yn “macho” drwy’r amser. I ni, mae sôn am ein problemau iechyd meddwl yn gallu dangos ein bod ni’n wan, a gallem ni feddwl na fydd pobl yn edrych arnom ni yn yr un ffordd eto.

Amdana i

Dwi’n 26 oed ac wedi dioddef gyda gorbryder drwy’r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn, yn ogystal ag iselder ers cwpl o flynyddoedd. Tan yn ddiweddar, roeddwn i’n ofni siarad am fy nhrafferthion ac wynebu beirniadaeth gan bobl, p’un a oeddwn i’n eu nabod nhw neu beidio. A dweud y gwir, dwi’n dal i gadw hyn i gyd yn gyfrinach rhag llawer o fy ffrindiau agos. Ond yn y bôn, pa fantais sydd i gadw’r pethau hyn i ni’n hunain?

Pan oeddwn i’n blentyn, un o hoff ymadroddion fy rhieni oedd “a problem shared is a problem halved”. Ar y pryd, roedd hynny’n swnio’n ‘cheesy’! Ond erbyn hyn, dwi’n cytuno’n llwyr. Heb fynd i ormod o fanylder, roeddwn i mewn lle tywyll iawn ar fy ngwaetha. Doeddwn i ddim am ofyn am gymorth a dangos unrhyw wendid ac roeddwn i’n fwy na pharod i roi’r ffidil yn y to yn llwyr. Mae bod yn barod i siarad gydag hyd yn oed un person wedi lleddfu’r straen cryn dipyn.

Yna, nes i fagu’r dewrder i siarad ag ambell berson arall amdano, cyn cymryd y cam mwyaf sylweddol ar fy nhaith, sef mynd ati i geisio cael cwnsela. Hynny yw, eistedd mewn ystafell fach gyda dieithryn a cheisio rhyddhau’r holl feddyliau, teimladau ac emosiynau.

Roedd hi’n anodd iawn yn ystod y sesiynau cyntaf.

Byddai fy ngorbryder yn fy atal i rhag rhoi brawddeg at ei gilydd, heb sôn am adrodd hanes fy mywyd! Ond rhywsut, mae’r arbenigwraig hon (“genius” dwi’n ei galw hi!) wedi llwyddo i ddadorchuddio popeth roeddwn i’n ei guddio. Bellach, dwi’n gyfforddus o’i chwmpas ac yn mynd ati bob wythnos i drafod beth bynnag. Allwn i ddim dweud diolch ddigon wrthi.

Ond wrth gerdded drwy’r drws cyn pob sesiwn ac eistedd yn yr ystafell aros yn gynhyrfus, mae’n anodd peidio sylwi bod yr holl staff yn fenywod a’r mwyafrif helaeth y bobl sy’n dod i gael cymorth yn fenywod hefyd. Holais i’r cwnselydd yn ystod un sesiwn ynglŷn â faint o ddynion sy’n dod yma am gymorth.

Ei hateb? ‘Dim llawer.’

Mae dynion enwog fel y dyfarnwr Nigel Owens, y chwaraewr rygbi Tom James a’r cyflwynydd teledu Matt Johnson, ymhlith eraill, wedi dod ag iechyd meddwl i sylw’r cyfryngau yng Nghymru ac maen nhw’n sicr wedi rhoi ysbrydoliaeth i mi i fod yn fwy agored a mynd benben â fy mhroblemau. Maen nhw’n haeddu clod mawr.

Yr adeg hon y llynedd, byddwn i’n cadw popeth i fi fy hun, yn gwneud popeth posib i guddio fy ngwir deimladau ac yn gadael i’m emosiynau gymryd rheolaeth arna i a’m gorfodi i feddwl nad oedd modd dianc rhag eu crafangau creulon. Ond mae cydnabod fy mhroblem, siarad amdano a mynd ati i gael cymorth i’w drechu wedi gwneud gwyrthiau. Buaswn i’n annog pawb, yn enwedig dynion, sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl i siarad. Boed hynny gyda ffrind, aelod o’r teulu neu rywun yn y gwaith. Does dim cywilydd mewn rhannu rhywbeth o’r fath; mae’n siŵr fod pobl rydych chi’n eu nabod yn wynebu problemau tebyg hefyd heb i chi wybod.

Gorau po fwyaf y dynion sy’n torri’r tawelwch i normaleiddio’r drafodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl. Beth am chwarae’ch rhan chi?

Rhys Owain Jones