Yoga, Therapi a Siarad
Do’n i ddim wedi bwriadu defnyddio y gohebydd a’r bonheddwr, Dewi Llwyd fel Mental Help Therapist rhyw fore Sadwrn yn fy lolfa yn Grangetown nôl ym mis Tachwedd ond diolch i’w sgiliau holi heb ei ail, ei glust astud, cefnogol, a’r ffaith bod Mam a fi wedi hitio’r karaoke a’r gwin coch ychydig yn rhy galed y noson gynt, dyna a fu.
1 – DWI MOR FALCH!
2 – DIOLCH MR LLWYD Ma’r cwpwrdd fancy dress yn barod amdana chi
3 – PAM BOD TRAFOD IECHYD MEDDWL DAL YN TABŴ??
Sgwrs “Penblwydd” oedd yr achlysur a’r cwestiwn cyntaf oedd “Hoff Benblwydd?”. Es i ‘mlaen i sôn am fy mhrofiad allan yn India yn troi yn 33 tra yn gwneud cwrs yoga o fis yn hyfforddi i fod yn athrawes a sut oedd y cwrs wedi trawsnewid fy mywyd o le go dywyll i le lle feddylish i i’n hun “dwi’n ok”. Yna daeth y cwestiwn “Fysech chi’n deud felly eich bod wedi dioddef o iselder yn y gorffennol?”. Que therapi sesh!
Do’n i methu CREDU yr ymateb ddoth o’r sgwrs a ddarlledwyd ar fore Sul Rhagfyr y 9fed ar Radio Cymru. Cymaint o gariad, cydymdeimlad, uniaethu a’r gair “dewr” yn popio fyny dros y siop. Dewr? Ond fel ‘na dwi wastad yn siarad?? Gor-rannu os wbeth! Methu cadw dim i fi fy hun! Ond ddim yn gyhoeddus o’r blaen ella?? Doedd y cwestiwn ‘rioed wedi codi neu ro’n i’n meddwl “pwy ‘sa isho clwad am fi a fy shit?”
Siarad a rhannu sydd wedi, ac sydd dal yn tynnu fy mhen i allan o’r cymylau bach tywyll ‘na sy’n ymddangos o dro i dro felly dwi WIR isho trio helpu normaleiddio’r drafodaeth.
Iselder, iechyd meddwl, anxiety, unigrwydd, emosiynau, be bynnag ydi’r pwnc, dwi’n gredwr cryf yn y dywediad “a problem shared is a problem halved.”
Y tro cyntaf ddoish i’n ymwybodol o fy iechyd meddwl oedd rhyw flwyddyn a hanner ‘rôl colli Dad. Roedd y golled yn uffernol ond ddim yn sioc. Ers o’n i’n fach iawn doedd iechyd Dad ddim yn grêt. Roedd o’n 53 pan gafodd o fi a rhwng y pêl- droed, bocsio, reslo a byw yn gyffredinol fel dyn gwyllt o’r coed (ond efo calon fel arth ) roedd ei gorff wedi bod drwyddi, ac ar Dachwedd y 12fed 2009, ar ôl trawiad calon, y diwedd a ddaeth
.
Beth oedd yn sioc oedd bywyd ar ei newydd wedd. Ail wampio fy mherthynas gyda Mam, a trio negydu y siwrne o “wella” gyda hi er bod y ddwy ohonom efo syniadau hollol wahanol o sut i ddelio gyda’r daith. Mae galar WIR yn effeithio pobl mewn ffyrdd gwahanol.
O edrych ‘nôl, fel unig blentyn a’r cynta’ o fy gang o ffrindiau i golli rhiant, ro’n i’n unig ac ar goll.
Yn dod o deulu lle doedd NEB yn trafod eu teimladau, Duw a ŵyr sut ydw i wedi troi allan i fod yn gymaint o over sharer! Methu help. A dwi’n teimlo bob dim i’r byw. Gesh i’r enw “The Giant Clitoris” unwaith gan fy ffrind gorjys a hileriys, y berfformwraig (a’r Parchedig) Carys Eleri. Dyna pa mor sensitif ydw i!
Dros y blynyddoedd dwi wedi dysgu technegau a sgiliau i reoli’r tueddiadau diolch i yoga, meditation a therapi (proffesiynol ynghyd â’r sesh Dewi Llwyd).
“Overwhelmed” ydi’r unig air all ddisgrifio sut o’n i’n teimlo ‘nôl yn 2011 yn fuan ar ôl cwblhau saethu a chynhyrchu’r rhaglen ORIG.
Roedd hi’n rollercoaster o ddarganfod gymaint am fywyd Dad gan ei gyd-weithwyr a’i gymdogion, boddi mewn atgofion, ail-fyw ei angladd droeon tra’n dewis a dethol clipiau ohoni i’r rhaglen a dim amser na guide book ar gyfer sut i ddelio hefo’r galar. Ro’n i’n amrwd, exhausted a candryll. Do’n i ddim yn hwyl i fod o fy nghwmpas. So ar ôl dipyn o berswâd, off a fi at y Doctor.
Iselder a nervous exhausion oedd y diagnosis a’r trac mwyaf prydlon oedd antidepressants a gweld sut oedd rheini yn siwtio, ond doedd hyn ddim yn teimlo’n iawn i mi. Roedd y syniad o handio fy meddwl drosodd i dablet yn fy nychryn. Councelling oedd yr opsiwn arall meddai’r doctor, ond roedd y rhestr aros ar yr NHS yn hiiiir.
Felly esh i ar lein i chwilio am therapist breifat. Fyddai’n fythol ddiolchgar bod fy sefyllfa wedi gwneud hyn yn bosib.
Nid yn unig ges i gymorth ar sut i ddelio gyda’r galar a sut i helpu fy hun yn fy sefyllfa ar y pryd, ond fe gododd llwythi o issues eraill oedd wedi bod yn sdyc ynddai ers blynyddoedd. Effaith cael fy mwlio yn yr ysgol, fy mherthynas gyda fy nghorff a bwyd, fy nhueddiad i drio plesho drwy’r amser, gor-feddwl a gorbryder yn enwedig yn fy ngyrfa, effeithiau bod yn blentyn yn tyfu fyny mewn byd llawn oedolion a’r hen ffefryn dwi bellach yn deall sydd yn drafferth i GYMAINT ohono ni…byth teimlo yn “ddigon.’
Ges i addysg gwbl newydd gan fy therapist, Karen (ma Karen yn LUSH) am y ffordd ma’r meddwl yn ymateb i bethau o ganlyniad i brofiadau o’n gorffennol ni. A thrwy adnabod ein tueddiadau neu ein triggers mae modd i ni gymryd cyfrifoldeb dros ein meddwl a rheoli’r ffordd ‘da ni’n ymateb. MIND BLOWN.
Er bod yr ergyd o golli Dad wedi bod yn siwrne anodd ac afiach ar adegau, o leiaf roedd yna “reswm” pam o’n i’n stryglo. Beth a ddaeth yn y blynyddoedd i ddilyn oedd cyfnodau o deimlo’n “isel” a “tywyll” am ddim rheswm. Roedd hwn bron yn anoddach i’w drin ar y dechrau oherwydd os nad ydan ni’n adnabod gwraidd y broblem, sut ddiawl ma modd ei drwsho?!
Hefyd, pa hawl ‘sgen i i ddisgwyl cymorth neu glust i wrando arna i pan “does dim byd wedi digwydd”?
Ar y pryd ro’n i’n mynd i wersi yoga, yn bennaf i helpu fy nghorff rhag y poenau o ganlyniad i ballet pan yn iau. Rhywbeth corfforol oedd yoga yn fy mhen i. 9 mlynedd yn ddiweddarach, a bellach fel athrawes hatha, ashtanga, yoga beichiog a yoga mam a phlentyn dwi’n deallt yn wahanol. Mae’r Gorllewin YN RONG yn y ffordd mae’n hysbysebu yoga efo merched hot mewn leotards efo’u coesau rownd eu pennau. MAE YOGA I BAWB. Y ffordd fyswn i’n ei ddisgrifio ydi anrheg bach o saib i’r corff a’r meddwl. Mae pawb yn haeddu presant bach a ma pawb yn haeddu saib. DYDYN?!
Mi ddysgais i gymaint o declynnau gwerthfawr yn ystod fy nghwrs yn India ac fe ddaeth llwyth o atgofion yn llifo nôl o fy nghyfnod gyda fy therapist 5 mlynedd ynghynt. Bron fel darnau o jig-so yn plethu at ei gilydd.
Dwi wastad wedi bod yn un i feddwl “reit…dyna ni hwnna di sortio…’mlaen a ni at y peth nesa” ond mewn gwirionedd does dim byd yn para am byth. Felly, nesh i bwcio i fynd nôl at Karen a trio priodi y ddau bwnc at ei gilydd.
Dwi’n caru deallt mwy a mwy am y meddwl a’i ffyrdd ac wedi elwa cymaint dros y blynyddoedd o ymchwil. Dwi hefyd mor falch bod cymaint mwy o gefnogaeth a gwybodaeth allan yna i ni bellach ar ffurf blogs, llyfrau, podcasts ac ati.
Dwi ymhell o fod yn “OK” drwy’r amser ond y prif beth dwi’n cofio rŵan ydi ei bod hi’n ok i beidio bod yn ok ar adegau.
Bod y teimlad ych a fi ‘na ddim yn mynd i bara am byth a bod poeni am y peth neu rhoi hard time fi fy hun ond yn mynd i waethygu’r sefyllfa. Hefyd, er bod meddyginiaeth ddim i fi, dwi’n ‘nabod gymaint o bobl sydd yn elwa’n fawr ohono. Rhannu eich problem ydi’r cam cyntaf. Gyda doctor, ffrind, cyd-weithiwr, unrhyw un.
Mae unigrwydd neu ddioddef mewn tawelwch ond yn gwneud y sefyllfa yn anoddach.
Dwi mor ddiolchgar i meddwl.org am fy ngwahodd i rannu fy mhrofiadau ‘nôl ym mis Rhagfyr llynedd a dwi mor, MOR sori am yr oedi i’w gwblhau!!
5 mis o drio tawelu’r f**cin lleisiau “dwi ddim digon da i sgwennu hwn, fydd o’n crap” sydd ar fai!!
Byddwch yn glên efo’ch hunain,
Cariad mawr,
Tara Bethan 🧡
🧡