Mae ein hunan-barch yn ymwneud â’r ffordd rydym yn ystyried ein hunain.
Llyfrau - Darllen yn Well • Llyfrau - Hunangymorth • Llyfrau - Plant a Phobl Ifanc • Llyfrau - Pob Llyfr
Canllaw i’r arddegwyr er mwyn atgyfnerthu eu hapusrwydd a’u dycnwch.
Yr wythnos hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lauren Morais a Meg am fwlio, hunanhyder, hunan-werth, y cyfryngau cymdeithasol, a dysgu sut i garu ein hunain.
Sonia Williams o gwmni Hyder Mewn Lliw sy’n sôn am sut gallwn ni gyflwyno lliw i’n bywydau er mwyn magu hyder.
Dyma Meg, sy’n 25 oed o Fethesda, yn sôn am yr effaith mae blynyddoedd o gael ei bwlio wedi ei gael ar ei hiechyd meddwl.
Dwi jyst ddim yn ddigon, be bynnag wnâi, felly be di’r pwynt? Be di’r pwynt ohona i?
Un step ar y tro. Dydd i ddydd. Mi aiff y twll yn llai ac yn llai. Un diwrnod, bydd gwên y Joker yn wên go iawn.
Galar yw’r cyflwr emosiynol poenus y byddwn ni i gyd yn dod ar ei draws ar ryw bwynt yn ein bywydau, ond rydym ni fel cymdeithas yn hynod gyndyn i’w drafod.
Mae gorbryder yn gwneud i mi orfeddwl o hyd, sy’n beth anodd iawn i ddelio gyda.
Dechreuodd y cwbl tua mis Mai blwyddyn 12, o ni’n anhapus gyda fy mhwysau felly fe benderfynais fod yn fwy ofalus da’r hyn o’n i’n fyta a byta’n fwy iach.
Mae mwy na 42% o fenywod rhwng 16 a 24 oed wedi profi straen yn gysylltiedig â’r ffordd y maen nhw’n edrych.
Ydych chi o hyd yn meddwl y gwaethaf o’ch hun? Neu ydych chi’n teimlo nad oes hyder gyda chi? ‘Dydych chi ddim ar ben eich hun.