Effaith bwlio

Dyma Meg, sy’n 25 oed o Fethesda, yn sôn am yr effaith mae blynyddoedd o gael ei bwlio wedi ei gael ar ei hiechyd meddwl.

  1. Alli di sôn rywfaint am dy brofiadau o gael dy fwlio?

Rydw i wedi cael fy mwlio yn ddiddiwedd ers yn pum mlwydd oed ar lein ac yn yr ysgol. Mae hyn wedi effeithio fy iechyd meddwl mewn llawer o ffyrdd. Yn enwedig am y ffordd rydw i’n edrych.

  1. Sut oedd hyn yn gwneud i ti deimlo? 

Mae wedi fy ngwneud i deimlo’n hunanymwybodol, isel, ofnus, unig, di-werth yn ogystal â̂’r teimlad o hunan-barch isel iawn.

  1. Ydy’r profiad hwnnw dal i effeithio arnat ti?

Ydi, mae’n parhau i fy effeithio. Mae’r bwlio a’r effaith o gael fy mwlio wedi parhau gyda mi ond wedi i mi sefyll i fyny i’r bwlis gyda fy nhweet, a chlywed faint o bobl rydw i wedi gallu eu helpu, mae wedi helpu fy iechyd meddwl a fy hyder yn fwy na all unrhyw beth arall.

  1. Wyt ti’n meddwl bod angen i gwmnïau fel Facebook a Twitter wneud mwy i ddiogelu eu defnyddwyr? Beth sydd angen newid?

Ydw. Credaf yn gryf dylai Twitter gael system cydnabod gryfach, e.e. Rhaid cael tystiolaeth o drwydded yrru neu dystysgrif geni i gael cyfrif. O ganlyniad i’w esgeulustod a’r diffyg o gael system debyg, hyd yn oed os ydych chi’n llwyddo i flocio cyfrif mae unigolyn yn parhau i allu creu nifer o gyfrifon newydd anhysbys.

  1. Beth yw dy neges di i’r bwlis heddiw?

Fy neges yw: mae beth rydych chi wedi dweud/ yn ei ddweud amdanaf fi yn dweud mwy amdanoch chi nac y mae amdanaf fi. Rydw i’n gobeithio eich bod yn teimlo yn hapusach tu mewn rwan ac yn teimlo nad oes angen cymryd eich rhwystredigaeth allan ar unigolyn arall. Cofiwch i fod yn gyfeillgar gyda phawb, byddai’n eich gwneud chi deimlo yn hapusach na bod yn annifyr a bwlio rhywun arall.

  1. Beth fyddet ti’n dweud wrth rywun sydd mewn sefyllfa debyg i ti?

Cofiwch os mae rhywun yn dweud rhywbeth câs wrthoch chi, nid yw’n wir ac maent yn anhapus yn eu bywyd eu hunain ac yn ceisio eich tynnu chi i lawr hefyd. Mae pwy bynnag sydd yn ceisio eich tynnu i lawr yn îs na chi yn barod, felly parhewch i “rise above them”. Cofiwch mae bod yn berson caredig yn bwysicach na dim byd, ac os oes ganddoch chi enaid caredig ac yn gwneud eich hunain ac eraill yn hapus, dyna beth sydd yn bwysig mewn bywyd.  Does dim byd yn bod efo chi. Ti’n lyfli fel wyt ti.

  1. Sut wyt ti wedi dod i deimlo yn gyfforddus a hyderus gyda dy gorff?

Rydw i’n parhau i weithio ar fod yn hyderus am fy nghorff. Ond rydw i’n cofio i fod yn garedig gyda fy hun, peidio rhoi fy hun i lawr a chofio bod pob corff yn brydferth dim ots am y maint na’r siâp.

  1. Beth fyddai dy neges i rywun sy’n stryglo gyda eu delwedd corff neu ddiffyg hyder?

Fy neges i fyddai i atgoffa pobl eich bod yn iawn fel yr ydych, mae pob corff yn wahanol ac yn hollol normal, ‘beauty is skin deep’. Yn ogystal ysgrifennwch ddatganiadau positif ar ddarn o bapur a’i ailadrodd i chi eich hunain pob diwrnod. Datganiadau fel ‘mae fy nghorff yn iawn fel y mae’ ‘rydw i yn deilwng” a.y.y.b.

  1. Beth allwn ni wneud os ydyn ni’n meddwl bod rhywun yn cael eu bwlio, wyneb yn wyneb neu ar-lein?

Gofynnwch iddyn nhw mewn modd sensitif. Dywedwch wrthynt eu bod mewn ‘ardal ddiogel’ (safe space) a bod mynediad i gefnogaeth ar lein yn ogystal â̂ dweud wrth athro neu reolwr. Os yr ydych ar lein, mae popeth rydw i wedi ei drafod yn flaenorol, megis eich bod yn iawn fel yr ydych chi, a’u bod nhw yn anhapus ynddyn nhw eu hunain, does dim byd yn bod gyda chi.

  1. Ydy’r pandemig a’r cyfnod clo wedi effeithio ar dy iechyd meddwl mewn unrhyw ffordd?

Ydi mae wedi bod, mae peidio gallu gweld ffrindiau a theulu wedi effeithio fi yn fawr fel mae wedi effeithio pawb arall. Rydw i’n ddiolchgar iawn am ‘facetime’ a ‘zoom’. Mae peidio gallu mynd i leoliadau o brydferthwch naturiol lleol wedi bod yn anodd ond rydw i’n edrych ymlaen i gael mynd pan fydd yn bosibl gwneud hynny.

  1. Oes gen ti unrhyw awgrymiadau am lyfrau / podlediadau / cyfrifon Twitter neu Instagram sy’n dy helpu di?

Na does dim un penodol, ond rydw i’n postio llawer ar fy ngwefannau cymdeithasol (Instagram a Twitter) am iechyd meddwl, hunan ddelwedd a gwrth-fwlio.

  1. Oes unrhyw beth arall hoffet ti ychwanegu?

Rydw i eisiau cymryd y cyfle yma i ddiolch i chi am roi’r llwyfan yma i mi gysylltu â phobl debyg i mi. Rydw i’n 25 mlwydd oed ac yn parhau i weld effeithiau bwlio hyd heddiw gyda fy mhroblemau iechyd meddwl. Hoffwn eich atgoffa ei fod yn gwella, yr unig beth rydych angen yw pinsiad o hunan hyder a hunan gred eich bod yn wych a na all unrhyw un eich tynnu i lawr oni bai eich bod yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny. Mae fy negeseuon Twitter ac Instagram wastad ar agor i chi gysylltu os ydych eisiau unrhyw gymorth neu holi unrhyw gwestiwn.