Hel Meddyliau gyda Meinir Ann Thomas

Tro yma, Meinir Ann Thomas fu’n egluro wrth meddwl.org mor anodd yw byw bywyd dyddiol law yn llaw â phrofiadau iechyd meddwl.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol? Beth yw eich profiadau chi?

O edrych nôl, yn fuan iawn ar ôl colli mam ym mis Medi 1992. Roedd hi ond yn 35 oed, a minnau ond yn 10. Ro’n i eisiau bod gyda hi, felly nes i acshyli gymryd gorddos yn fuan iawn ar ôl iddi farw (tua pythefnos mae’n siŵr) er mwyn cael bod gyda hi. Wrth gwrs, naeth e ddim gweithio, a nes i ddim trial eto chwaith, ond do’n i ddim yn iawn o bell ffordd. Wi’n cofio dweud wrth dad tua mis ar ôl colli mam fy mod i’n depressed. Wedodd e shwt allen i fod yn depressed yn 10 oed? Ar ôl hynny, nes i gau fy ngheg. Cadw fy nheimladau i mi’n hun.

Oes gennych chi brofiad o dderbyn cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl? Pa fath o gymorth, a sut brofiad oedd hwn?

Oes. Nes i gymryd tabledi roaccutane ar gyfer acne yn 17 oed, a’r sgil effeithiau gwaethaf oedd iselder ysbryd a theimladau o hunanladdiad (mae rhai pobl wedi lladd eu hunain ar ôl cymryd y cyffur hwn) a nes i ddioddef y sgil effeithiau hyn. Nes i ffonio’r ysbyty er mwyn ceisio cael apwyntiad cynharach gyda’r arbenigwr croen (roedd gen i apwyntiad mewn rhyw fis ond doeddwn i ddim am deimlo fel hyn am fis arall). Roedd agwedd y dderbynyddes yn ofnadwy. Nes i esbonio’r sefyllfa ond gwrthododd roi apwyntiad cynharach i mi gan fod pobl â chancr y croen ganddo i’w gweld, ac awgrymu nad oeddwn i’n bwysig, er fy mod i’n meddwl am ladd fy hun.

Nes i ddweud wrthi fy mod i am stopio cymryd y tabledi a naeth hi ddweud bod hynny lan i fi. Felly nes i stopio cymryd nhw, ond roedd yr iselder dal yno, felly es i i weld fy meddyg teulu a naeth hi’n anfon i at gwnselydd. Roedd hi’n meddwl fy mod i’n teimlo fel hyn oherwydd beth ddigwyddodd i mam yn ogystal â’r tabledi roaccutane. Es i i ambell sesiwn, ond yna es i i’r Brifysgol ym Mangor felly doedd dim modd i mi barhau â’r sesiynau. Doeddwn i ddim yn teimlo eu bod nhw’n helpu ta beth. Yn 22, es i i weld cwnsler galar, a rhyw flwyddyn ar ôl hynny, es i i weld seicotherapydd, ond naeth hynny ddim helpu chwaith. Ro’n i’n teimlo nad oedd siarad yn newid unrhyw beth.

Sut fyddwch chi’n ymdopi â’ch iechyd meddwl o ddydd i ddydd? Oes unrhyw beth penodol ydych chi’n ei wneud o ran hunanofal?

Mae’n anodd. Rydw i wedi dod dros yr iselder erbyn hyn, ond rydw i dal yn dioddef o orbryder, sy’n medru achosi problemau yn y gwaith gan fod hyn yn ei gwneud hi’n anodd i mi ymdopi â straen. Ond rydw i’n gwneud pethau o ran hunanofal. Rwy’n aelod o gym ac yn mynd i ddosbarthiadau cicfocsio yn rheolaidd, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd eraill yno. Rwy’n ceisio treulio amser gyda theulu a ffrindiau, ac rwy’n ceisio mynd i ffwrdd mor aml â phosibl er mwyn gweld rhywfaint o’r byd, cael profiadau newydd, cwrdd â phobl newydd, a dianc rhag unrhyw straen adref. Rwy’n ceisio gwneud pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus.

Oes unrhyw beth positif wedi dod o’ch profiad o anawsterau iechyd meddwl?

Na, dim o gwbl. Y cwbwl mae e wedi neud yw gwneud bywyd yn anodd i mi.

Oes angen mwy o godi ymwybyddiaeth? Sut mae gwneud hynny?

Oes, wi’n credu. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dda am hynny. Mae gweld bod rhywun arall yn mynd trwy rhywbeth tebyg i chi’n gwneud i chi deimlo nad ydych chi ar ben eich hun. Eich bod chi’n ‘normal’.

Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i chi eich hun pan oeddech chi’n iau, neu i rywun sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd?

Peidio byth mynd ar roaccutane. Naethon nhw striwo mywyd i. Sai’n dweud na fydden i wedi cael unrhyw broblemau o gwbl tasen i heb fynd arnyn nhw, oherwydd beth ddigwyddodd i mam, ond naethon nhw neud pethau cymaint gwaeth.

Unrhyw beth arall i’w rannu?

Mae gorbryder yn gwneud i mi orfeddwl o hyd, sy’n beth anodd iawn i ddelio gyda. Efallai mod i’n dod drosodd fel person hyderus weithiau, ond does gan neb syniad beth sy’n mynd trwy mhen i. Pan wi’n cwrdd â phobl newydd, neu hyd yn oed pan wi’n gweld pobl wi’n nabod ers blynydde, mae pethau’n mynd rownd a rownd fy mhen i – “Beth ma nhw’n feddwl ohona i? Maen nhw siŵr o fod yn meddwl fy mod i mor dew. Fy mod i wedi rhoi cymaint o bwysau mlaen. Mor salw ydw i.” Rwy’n poeni am bethau wi wedi dweud. Poeni fy mod i’n swnio’n dwp. Poeni fy mod i wedi dweud rhywbeth o’i le. Mae fy nheulu a’m ffrindiau lawr y gym o hyd yn dweud wrtha i bod angen i mi gael mwy o hyder, ond shwt? Dyw e jyst ddim yn bosibl.